Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr
Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Wyth stori ar gyfer Dysgwyr Cymraeg Lefel Sylfaen gan rai o awduron gorau Cymru, yn cynnwys Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis a Lois Arnold. Mewn cydweithrediad ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru, bydd y straeon yn cael eu cyhoeddi ar gyfer dechrau Awst a bydd yr awduron yn darllen eu straeon (gydag isdeitlau) ar blatfformau digidol amrywiol.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Eight stories for Foundation Level Welsh Learners by some of Wales' best storytellers, including Bethan Gwanas, Guto Dafydd, Mared Lewis and Lois Arnold. In cooperation with the Welsh National Eisteddfod, the stories will be published in August, with the authors reading the stories (with subtitles) on various digital platforms.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784619312
- Gwales Code
- gwales.com.9781784619312
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Amdani: Ffenest a Straeon Eraill i Ddysgwyr
- Awdur / Author
- Amrywiol
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2020-08-01
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 80 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Rhwng cloriau Ffenest a straeon eraill i ddysgwyr , mi ddowch chi o hyd i straeon sy’n codi chwilfrydedd, yn cyffwrdd â’r galon, yn gwneud i chi feddwl ac i chwerthin. Mi gewch chi ddarllen straeon sy’n annwyl iawn, straeon sy’n edrych ar y berthynas rhwng pobl, rhai sy’n gofyn cwestiynau am gymdeithas heddiw a rhai sy’n ddigon i godi ofn ar rywun. Mae rhai ohonyn nhw wedi eu gosod yn ystod cyfnod pandemig y coronafeirws a chyfnod clo, felly mae stamp pendant iawn y flwyddyn 2020 a chyd-destun cymdeithasol ehangach i’w teimlo ar ambell stori. Ond mae un peth sy’n gyffredin rhyngddyn nhw; mae’r awduron wedi ysgrifennu straeon ar gyfer oedolion sy’n dysgu Cymraeg, gan siarad mewn iaith sy’n addas iddyn nhw, ond heb fod yn nawddoglyd. Yn rhan o gyfres Amdani, ar y cyd â’r Eisteddfod Genedlaethol, cyhoeddwyd y gyfrol hon yn haf 2020. Fel rhan o Ŵyl Amgen, roedd yr awduron yn darllen eu straeon, ac ar adeg ysgrifennu’r adolygiad yma mae’r fideos i’w gweld ar-lein os ewch chi i chwilota. Mae’r gyfrol yn addas i ddysgwyr lefel Sylfaen ac ar waelod pob tudalen ceir geirfa briodol. Mae gofyn i’r dysgwyr fod yn eitha’ hyderus yn eu geirfa, patrymau a strwythurau’r Gymraeg, ond yn sicr mae’r rhain yn straeon gwych i gyflwyno llenyddiaeth Gymraeg i’n siaradwyr newydd ni. Mae amrywiaeth o acenion yn y gwahanol straeon hefyd, felly mae’n addas i ddysgwyr sy’n dilyn cyrsiau iaith y Gogledd neu’r De. Er na lwyddodd pob stori i daro deuddeg efo fi (peth felly ydy chwaeth bersonol, mae’n debyg), rydw i’n hoff iawn o’r gyfrol yn ei chyfanrwydd. Fy hoff straeon i ydy 'Ffenest' gan Guto Dafydd, 'Calon wrth Galon' gan Meleri Wyn James, 'Hen Ffôn fy Nain' gan Mared Lewis ac 'Ar y Bws' gan Bethan Gwanas. Dyma’r straeon wnaeth ‘siarad efo fi’ a chyffwrdd. Dwi’n siŵr y bydd gan ddarllenwyr eraill eu ffefrynnau eu hunain. Fel tiwtor Cymraeg, mae dod o hyd i ddeunydd darllen diddorol ac amrywiol yn uchel iawn ar fy rhestr o flaenoriaethau wrth gefnogi dysgwyr. Rwy’n hoff o’r gyfrol yma am ei bod hi’n trafod ystod eang o bynciau sy’n mynd i apelio at amrywiaeth o ddysgwyr mewn iaith a phatrymau iaith sy’n gyfarwydd iddyn nhw. Mae gan bob dysgwr ei chwaeth bersonol ei hunan, wrth gwrs, ond mi faswn ni’n argymell hon fel cyfrol addas i gyflwyno gwaith rhai o awduron Cymraeg mwyaf blaenllaw a phoblogaidd Cymru iddyn nhw.
Share
