Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Cyfres Amdani: Gêm Beryglus

Regular price £8.99 GBP
Regular price Sale price £8.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Addasiad gan Pegi Talfryn o Man Hunt gan Richard MacAndrew ar gyfer dysgwyr Cymraeg lefel canolradd. Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn enwog am ei harddwch naturiol a'r llwybrau cerdded. Ond mae'r lle yn cyrraedd y newyddion am reswm arall; mae pobl yn cael eu lladd yn yr ardal.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912261291
Gwales Code
gwales.com.9781912261291
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Amdani: Gêm Beryglus
Awdur / Author
MacAndrew, Richard
Current Price ex VAT
£8.99
Current Price inc VAT
£8.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-10-15
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Editor
Talfryn, Pegi
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
100 pages
Size
147 × 210 mm; depth 10 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
FSC Status
No FSC or PEFC logo/certification declared

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae Gêm Beryglus yn stori drosedd sy’n digwydd yn ardal Bannau Brycheiniog, lle mae llofrudd wedi lladd ei ysglyfaeth gyntaf. Mae'r awdur yn ysgrifennu mewn ffordd ddiddorol, gan ddechrau yn y person cyntaf, sef y llofrudd, ac wedyn newid i’r trydydd person wrth ddilyn yr ymchwiliadau gan yr heddlu a’r ymdrechion i ddal y llofrudd. Mae e’n newid yn ôl ac ymlaen rhwng y ddau safbwynt, ac fel hyn mae'r darllenydd yn dilyn stori’r llofrudd ar un ochr – ei gynlluniau a'r llofruddiaethau – ac ar yr ochr llall yn dilyn stori’r Ditectif Arolygydd Cadog Williams, y Rhingyll Heledd Davies a’r swyddog fforensig Ffion Roberts. Mae’n ddull effeithiol, oherwydd ar y dechrau mae'r darllenydd yn gwybod beth mae'r llofrudd yn mynd i'w wneud, a hefyd ble, pryd a sut, cyn i’r heddlu wybod. Felly’r dirgelwch yw pam, a phwy yw’r llofrudd mewn gwirionedd. Tra bod y stori yn mynd rhagddi mae’r llofruddiaethau yn dod yn agosach at ei gilydd ac mae sawl trywydd a chliw yn arwain yr heddlu at yr atebion, ac yn y diwedd at uchafbwynt cyffrous. Ar y dechrau ro’n i’n teimlo ychydig bach yn anghyfforddus ynghylch darllen meddyliau llofrudd, ond wedyn dechreuais fod eisiau gwybod mwy am y cymeriadau. Dysgais i fwy am seicoleg trosedd, sut mae'r heddlu yn gweithio mewn sefyllfa fel hyn, a pha mor anodd yw eu gwaith. Mae’r llyfr hwn yn addas ar gyfer dysgwyr ar lefel Canolradd, ac mae’r eirfa ar waelod y tudalennau yn ddefnyddiol.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

A fydd Ditectif Arolygydd Cadog Williams a'i dîm yn gallu dod o hyd i'r llofrydd cyn iddo ladd eto?

View full details