Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Amdani: Llwybrau Cul
Cyfres Amdani: Llwybrau Cul
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr o gyfres Amdani, ar gyfer Dysgwyr Lefel Uwch. Mae'r nofel yn agor ar olygfa damwain liw nos ar ffordd gul yng nghefn gwlad Cymru. Mae tri char wedi cael eu heffeithio. Ond beth sy'n plethu'r tri gyrrwr, a sut cyrhaeddon nhw'r sefyllfa hon?
Disgrifiad Saesneg / English Description
A book for Welsh learners, Advanced Level (Uwch). There has been a three-car crash on the back-roads of rural Wales one dark night. But what joins the driver's of these vehicles, and how did they end up here?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781785622380
- Gwales Code
- gwales.com.9781785622380
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Amdani: Llwybrau Cul
- Awdur / Author
- Lewis, Mared
- Current Price ex VAT
- £8.99
- Current Price inc VAT
- £8.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2018-11-09
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 132 pages
- Size
- 147 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Mared yn byw yn Llanddaniel-fab yn Sir Fôn. Mae'n awdures brofiadol sydd wedi cyhoeddi sawl cyfrol ar gyfer oedolion yn Gymraeg. Mae wedi gweithio fel ymchwilydd i raglenni dogfen ysgafn i S4C.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae hon yn nofel afaelgar sy’n dilyn cymeriadau diddorol a chymhleth wrth i’w gwahanol fywydau blethu’n un stori. Cwrddwn ag Alfan sy’n ddigartref ers dau fis, a Siwan, menyw gyfoethog, a chawn ddilyn trywydd eu bywydau wrth iddynt ddod i nabod ei gilydd. Ond mae ‘dod i nabod’ yn broses araf a throellog gan fod cyfrinachau gan y ddau am boen a chymhlethdod eu gorffennol. Nid seintiau mohonyn nhw o bell ffordd, ond mae rhywbeth annwyl a chlwyfedig yn y ddau ohonynt sy’n dod yn fwy amlwg ar adegau ac yn ein denu atynt. Mae’r nofel yn dilyn Alfan a Siwan am yn ail, fesul pennod, ond mae eu hanesion yn cael eu cyflwyno yn y trydydd person yn hytrach nag yn lleisiau’r cymeriadau eu hunain. Disgrifir beth sy’n digwydd yn glir, mewn ffordd sy’n hawdd ei dilyn, ac yn aml mae’r stori’n datblygu trwy ddeialogau rhwng Alfan a Siwan, a sgyrsiau gydag eraill yn nes ymlaen. Mae’r hanes yn symud yn ei flaen yn gyflym, gan gadw diddordeb y darllenydd drwyddo draw. Rydym eisiau gwybod beth fydd yn digwydd nesaf, wrth i bethau annisgwyl gael eu datgelu. Oes pobl dda a phobl ddrwg yma, ynteu ydy’r gwirionedd yn fwy amwys na hynny? Dyw’r awdur ddim yn mynd yn ddwfn i bersonoliaeth y cymeriadau, ond dysgwn ddigon i ddeall eu teimladau, eu dyheadau a’u gwendidau. Ysgrifennwyd y llyfr gan Mared Lewis ar gyfer cyfres Amdani i ddysgwyr, a’r mae'r llyfr hwn ar gyfer Lefel Uwch, gyda geirfa addas ar waelod pob tudalen i hwyluso’r darllen. Mae hefyd restr lawn o’r eirfa hon yng nghefn y llyfr. Iaith y gogledd sydd yn y deialogau, ond fydd hyn ddim yn rhy anodd i ddysgwyr Lefel Uwch y de chwaith. Bydd darllen y gyfrol yn brofiad i’w fwynhau gan unrhyw ddysgwr sy’n hoff o stori gref, a bydd yn gymorth i ddysgu ac ehangu geirfa, idiomau a chystrawennau naturiol a chyfoes wrth ymlacio a chyffroi ar yr un pryd.
Share
