Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Amdani: Rob
Cyfres Amdani: Rob
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel i ddysgwyr Cymraeg Lefel Uwch gan Mared Lewis, sy'n diwtor Cymraeg i oedolion. Mae Rob a'i ddau blentyn yn symud i fyw i dŷ ei fodryb, ac yn dechrau bywyd newydd fel tad sengl. Ond ydy hi'n hawdd cynnau tân ar hen aelwyd? Nofel lawn hiwmor, sy'n ymdrin â nifer o themâu cyfoes.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel for Welsh Learners at Higher Level by Welsh tutor Mared Lewis. Rob and his two children move into his aunt's house and begins life as a single parent. But is it easy to recreate the flame of old? A humorous novel that deals with a number of contemporary themes.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784618674
- Gwales Code
- gwales.com.9781784618674
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Amdani: Rob
- Awdur / Author
- Lewis, Mared
- Current Price ex VAT
- £7.99
- Current Price inc VAT
- £7.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-08-28
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 116 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r nofel hon wedi cael ei hysgrifennu gan Mared Lewis ar gyfer dysgwyr, a gwnes i ei mwynhau yn fawr iawn. Yn y dechrau, yr oeddwn i’n ffindio’r cynnwys yn ysgafn a difyr a hefyd ro’n i’n siŵr y gallwn ragweld yn union beth fyddai’n digwydd rhwng Rob (y prif gymeriad, tad sengl efo dau o blant, newydd ysgaru), a’r merched amrywiol yn ei fywyd o, yn enwedig ‘Vogue’ ac Alys. Mae Rob wedi etifeddu tŷ ar ôl marwolaeth ei fodryb, ac felly mae’n symud i fyw mewn pentref lle roedd o’n arfer aros pan oedd o’n ifanc. Mae ‘Vogue’ yn ddynes hyderus, fel model, y mae Rob yn cwrdd â hi am y tro cyntaf wrth giât yr ysgol, ac mae Alys yn hen gariad iddo. Fy hoff gymeriadau yw plant Rob – ei fachgen bach Moc, efo’i ffordd unigryw o siarad a gweld y byd; a Ffion, merch yn ei harddegau, sy’n amyneddgar ac yn annibynnol, ambell waith yn dweud pethau anodd ond hefyd yn amlwg yn caru ei thad a’i brawd iau. Ro’n i’n ffindio Wil, ffrind Anti Harriet (a fu farw cyn dechrau’r hanes), yn gymeriad diddorol hefyd. Yn ystod ail hanner y llyfr, fe digwyddodd rhywbeth nad oeddwn i’n ei ddisgwyl o gwbl, ac fe wnaeth hwn dynnu fy sylw yn syth. Mae Mared Lewis yn defnyddio iaith ysgrifenedig syml a chlir – iaith bob dydd. Os oes gair neu ymadrodd anodd, mae’n debyg y bydd cyfieithiad wedi ei ddarparu ar waelod yr un tudalen, sydd yn eich galluogi i ddarllen yn haws – does dim angen troi at y geiriadur bob pum munud! Hefyd mae pob pennod yn fyr, sydd yn golygu ei bod yn bosib ffindio’r amser i’w darllen. Yn bendant, fe fyddwn i’n annog unrhyw un sydd eisiau darllen yn y Gymraeg i drio’r nofel hon. Mae’n berffaith i godi hyder dysgwyr wrth i ni drio defnyddio’r Gymraeg fwy a mwy bob dydd.
Share
