Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Amdani: Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare
Cyfres Amdani: Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Mynediad. Bywgraffiad Wynne Evans. Darlun personol a gonest iawn o hanes Wynne a'i deulu, ei brofiadau fel tenor enwog, a'i ymdrech fel oedolyn i ddysgu Cymraeg. Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A book for Welsh learners, Entry Level. Biography of Wynne Evans. A very personal and honest history of Wynne and his family, his experiences as a famous tenor, and his efforts to learn Welsh. REPRINT FIRST PUBLISHED 2018.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845216856
- Gwales Code
- gwales.com.9781845216856
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Amdani: Wynne Evans - O Gaerfyrddin i Go Compare
- Awdur / Author
- Meek, Elin
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-12-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- CAA Cymru
- Editor
- Ifan, Delyth
- Darlunydd / Illustrator
- Pritchard, Richard
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 52 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r gyfrol yma yn rhan o gyfres newydd o lyfrau i ddysgwyr, sef cyfres Amdani. Mae Wynne Evans, O Gaerfyrddin i Go Compare yn llyfr sy’n addas i ddechreuwyr, i’r rheiny sy’n dysgu ar lefel Mynediad. Fel tiwtor Cymraeg, dw i’n falch iawn o weld cyfres newydd yn cael ei chyhoeddi i helpu dysgwyr y tu allan i’r dosbarth, gan ei bod hi bob amser yn anodd iawn dod o hyd i ddeunydd addas i gefnogi dysgwyr. Yn y llyfr yma, rydyn ni’n cael dysgu ychydig mwy am hanes y Cymro adnabyddus Wynne Evans. Efallai fod llawer yn gwybod amdano fel canwr opera a chlasurol, cyflwynydd teledu a radio ac, wrth gwrs, erbyn hyn mae’n adnabyddus fel cymeriad Gio Compario yn yr hysbysebion Go Compare ar y teledu. Ond yn y gyfrol hon, cawn ddarllen am ei blentyndod, ei berthynas efo’i deulu, elfennau eraill o’i yrfa ac ychydig am ei brofiad o ddysgu Cymraeg. Roeddwn i’n hoff iawn o’r arddull cwestiwn ac ateb oedd yn cael ei ddefnyddio yn y llyfr. Mae’n rhoi pytiau byrrach o wybodaeth er mwyn ei gwneud hi’n haws i ddysgwyr ar lefelau dechreuwyr ddarllen ychydig bach ar y tro os ydyn nhw’n dymuno gwneud hynny. Mae’r wybodaeth wedi’i gosod allan yn glir gyda geirfa ar waelod pob tudalen, ac mae pob gair sy’n ymddangos yn yr eirfa wedi cael ei osod mewn ffont trwm yn y darn, sy’n ddefnyddiol iawn. Yn ogystal, mae’r eirfa i gyd wedi ei chasglu at ei gilydd a’i chynnwys ar ddiwedd y llyfr hefyd. Mae’r gyfrol wedi’i hysgrifennu yn iaith y de, ac mae’r iaith yn glir ac yn hawdd ei dilyn. Gan mai o safbwynt Wynne Evans ei hun mae’r cynnwys yn dod, iaith lafar sydd yma hefyd. Mae’n braf cael llyfr sydd ddim yn y categori ffuglen, gan fod chwaeth pob darllenydd yn wahanol ac nid yw pawb yn mwynhau darllen ffuglen, wrth gwrs. Hefyd, wrth ddysgu iaith o’r newydd, mae’n gallu bod yn anodd darllen gwaith creadigol a dod i ddeall yr holl ystyron – fan hyn rydyn ni’n cael hanes a gwybodaeth ddifyr am Wynne Evans, felly mae hi’n haws rhoi amser i ganolbwyntio ar ddeall geirfa ac ystyr sy’n werthfawr iawn i ddarllenwyr lefel Mynediad. Mae hon yn gyfrol werthfawr i ddysgwyr, yn arbennig y rheiny sy’n dysgu cyrsiau yn iaith y de, ac yn gyfle gwych i ddysgu mwy am wyneb cyfarwydd yng Nghymru – sydd yn llawer mwy na dim ond wyneb a llais Go Compare!
Share
