Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Amdani: Yn ei Gwsg

Cyfres Amdani: Yn ei Gwsg

Regular price £7.99 GBP
Regular price Sale price £7.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Llyfr o gyfres Amdani, i ddysgwyr Lefel Sylaen. Nofel wreiddiol gan Bethan Gwanas. Mae Dafydd yn cerdded yn ei gwsg, ac un bore, mae'n deffro yn waed i gyd. Mae'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'r tŷ a thrwy'r pentref ac yn darganfod Mrs Roberts a'i zimmerframe ar ochr y ffordd wedi'i tharo gan gar. Pwy sydd wedi ei tharo? Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2018.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A book for Welsh learners, Foundation Level, being an original novel by Bethan Gwanas. Dafydd sleepwalks, and awakes one morning covered in blood. He follows bloody footprints out of the house and through the village to find Mrs Roberts at the roadside after a hit-and-run case. Who has hit her and will the police arrest the culprit? Reprint. First Published in 2018.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781912261307
Gwales Code
gwales.com.9781912261307
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Amdani: Yn ei Gwsg
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£7.99
Current Price inc VAT
£7.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-11-06
Cyhoeddwr / Publisher
Atebol
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
148 × 210 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Dysgwyr (yn Gymraeg) gweler hefyd Iaith, Gramadeg a Geiriaduron (yn Gymraeg) | EN: Welsh Learners (in Welsh) see also Language, Grammar and Dictionaries (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Deunydd Darllen (yn Gymraeg) | EN: Reading Material (in Welsh)

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Ewch i https://parallel.cymru/bethan-gwanas-awdures-ydw-i ddarllen mwy am Bethan Gwanas.

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Visit https://parallel.cymru/bethan-gwanas-awdures-ydw-i for more information.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Nofel ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen yw hon, sy'n rhan o'r gyfres newydd Amdani ar gyfer oedolion sy'n dysgu Cymraeg. Mae nifer o lyfrau yn y gyfres wedi eu cyhoeddi gyda mwy ar y gweill, ac maen nhw wedi eu graddoli ar bedair lefel, sef Mynediad, Sylfaen, Canolradd ac Uwch, i gyd-fynd â’r cyrsiau dysgu Cymraeg cenedlaethol newydd. Ro'n i'n edrych ymlaen at ddarllen Yn Ei Gwsg gan i mi fwynhau darllen y gyfres o nofelau Blodwen Jones gan Bethan Gwanas pan o'n i'n gwneud lefel Sylfaen – nofelau doniol, bywiog a hawdd i'w darllen gyda geirfa Cymraeg/Saesneg ar waelod pob tudalen. Ro'n nhw'n wych o ran adolygu patrymau a geirfa, dysgu geirfa newydd ac, yn bwysicach fyth, o ran darllen am fywyd bob dydd mewn iaith eitha syml a dealladwy. Ceir yr un peth gyda'r nofel hon. Mae'n ddoniol, bywiog a hawdd ei darllen. Mae'r stori am ddyn o'r enw Dafydd sy'n cerdded yn ei gwsg, a'i gi Wmffra sy ddim yn cerdded yn ei gwsg. Un bore, mae Dafydd yn deffro ac yn cael sioc ofnadwy – mae gwaed dros y lle i gyd, gan gynnwys drosto fe'i hun. Er mwyn trio deall beth ddigwyddodd mae e'n dilyn olion traed gwaedlyd allan o'i dŷ a thrwy'r pentref. Mae e'n dod o hyd i'w gymydog Mrs Roberts a'i ffrâm gerdded ar ochr y ffordd. Mae'n ymddangos, yn ôl pob tebyg, ei bod hi wedi'i tharo gan gar. Dyw Dafydd ddim yn gwybod beth yn union ddigwyddodd, felly mae e'n mynd ati, gyda help gan Wmffra, i drio datrys y dirgelwch. Wnaeth Dafydd rywbeth ofnadwy yn ei gwsg? Dy'n ni'n clywed am gwpl o bethau mae e wedi eu gwneud yn ei gwsg yn y gorffennol, ond beth ddigwyddodd y tro yma? Ddaw e o hyd i'r ateb? Mae'r nofel yn symud ymlaen yn gyflym wrth i Dafydd geisio datrys y dirgelwch. Mewn ffordd ysgafn, ond gyda sensitifrwydd, mae'r nofel yn delio â themâu megis perthynas, cyfeillgarwch, cariad, teyrngarwch, unigrwydd a cholled. Mae'r penodau'n fyr ac mae tro yn y gynffon ar ddiwedd y llyfr (nid cynffon Wmffra, dw i'n prysuro i'w ychwanegu!). Yn ogystal â geirfa Cymraeg/Saesneg ar waelod pob tudalen mae rhestr eirfa Cymraeg/Saesneg yng nghefn y llyfr hefyd, ac mae'r nofel wedi'i darlunio gan Huw Aaron. I grynhoi, dyma lyfr gwych ar gyfer dysgwyr lefel Sylfaen ond byddwn i'n argymell y dylai dysgwyr ar lefelau uwch ddarllen y nofel er mwyn adolygu patrymau a geirfa, mwynhau'r stori – a chefnogi'r diwydiant cyhoeddi ar gyfer dysgwyr Cymraeg. Dw i'n edrych ymlaen at ddarllen gweddill y llyfrau yn y gyfres!

View full details