Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Anthony Horowitz: Bws y Nos

Cyfres Anthony Horowitz: Bws y Nos

Regular price £3.99 GBP
Regular price Sale price £3.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Noson calan gaeaf yw hi ond nid chwarae triciau mae'r meirw byw ar y bws nos! Pan mae ei dad yn rhoi lifft i rywun sy'n bodio, mae Jacob yn wynebu problem. Mae rhywun yn cuddio cyfrinach farwol. A phwy yw'r dyn a chanddo wyneb melyn yn llun pasbort Peter? Peter? Nage, siŵr iawn! Addasiad Cymraeg o The Night Bus .

Disgrifiad Saesneg / English Description

It's hallowe'en, but living dead on the night bus home aren't trick or treats! When his dad picks up a hitch-hiker, Jacob finds himself in a life or death situation. Someone is harbouring a deadly secret. And who is the man with the yellow face in Peter's passport photo - because it isn't him ... is it? A Welsh adaptation of The Night Bus .

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781904357223
Gwales Code
gwales.com.9781904357223
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Anthony Horowitz: Bws y Nos
Awdur / Author
Horowitz, Anthony
Current Price ex VAT
£3.99
Current Price inc VAT
£3.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-10-28
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
TBC
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
80 pages
Size
197 × 127 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae tair stori yn y llyfr hwn: ‘Bws y Nos’, ‘Y Ffawdheglwr’ a’r ‘Dyn â’r Wyneb Melyn’. Maen nhw i gyd yn ffantastig, ond braidd yn arswydus. Rwy’n hoffi’r ffaith nad yw'r llyfr yn rhy drwchus chwaith – rwy’n fwy tebygol o ddechrau darllen llyfr felly na llyfrau trwm. Roedd stori ‘Bws y Nos' yn dda iawn. Roedd hi’n sôn am ddau fachgen yn mynd i barti Calan Gaeaf ond roedden nhw’n gorfod bod adref cyn hanner nos. Bu'n rhaid iddyn nhw ddal bws llawn cymeriadau rhyfedd iawn. Y diwrnod canlynol, mae mam un ohonynt yn gofyn am rif y bws er mwyn ffonio'r orsaf – ond doedd y bws ddim yn bod! Os nad bws go iawn oedd hwn, o ble ddaeth e, a phwy oedd y teithwyr? Yn `Ffawdheglwr' mae Horowitz yn rhoi tro newydd ar hen stori ysbryd am fodiwr amheus. Ar ôl diwrnod braf yn dathlu pen-blwydd Jacob, mae ei dad yn rhoi lifft i fawdheglwr. Dydy Jacob a’i fam ddim yn hapus iawn wrth weld golwg y dyn, ac yn wir, camgymeriad mawr oedd rhoi lifft iddo ... ond am reswm annisgwyl. Yn yr orsaf cyn mynd adref, roedd Simon yn tynnu lluniau ohono’i hun mewn blwch tynnu ffotograffau. Ond pan ddaethon nhw o'r peiriant, nid Simon oedd yn y lluniau, ond rhyw ddyn melyn, hyll – a’i stori ef a gawn yn y stori olaf, ‘Y Dyn â’r Wyneb Melyn’. Pwy oedd y dyn, a beth sy’n mynd i ddigwydd i Simon? Darllenwch y llyfr er mwyn darganfod beth yw’r cysylltiad dychrynllyd rhwng y ddau. Roeddwn i’n meddwl bod y llyfr yma'n fendigedig ac yn addas i blant rhwng wyth a phymtheg oed - ond mae’n rhaid eich bod yn hoffi cael eich dychryn!

View full details