Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Anthony Horowitz: Camera Creulon
Cyfres Anthony Horowitz: Camera Creulon
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Matthew wrth ei fodd â'r camera y daeth o hyd iddo mewn arwerthiant cist car, tan iddo ddechrau sylweddoli bod popeth y mae'n tynnu llun ohono yn torri ... neu'n marw. Mae Henry'n dod i'r casgliad fod gan ei gyfrifiadur ei fywyd ei hunan ac nad oes ofn ganddo gymryd siawns - a bywydau! Addasiad Cymraeg o Killer Camera .
Disgrifiad Saesneg / English Description
Two spine-chilling short stories by Anthony Horowitz. Matthew is pleased with the camera he finds at a car boot sale - that is until he realises everything he photographs breaks ... or dies. Henry soon finds out that his new computer has a life of its own - and it's not afraid to gamble with people's lives. A Welsh adaptation of Killer Camera .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904357186
- Gwales Code
- gwales.com.9781904357186
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Anthony Horowitz: Camera Creulon
- Awdur / Author
- Horowitz, Anthony
- Current Price ex VAT
- £1.99
- Current Price inc VAT
- £1.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-09-09
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- TBC
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 80 pages
- Size
- 197 × 127 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae yna ddwy stori yn y llyfr yma. Y cyntaf yw Camera Creulon a'r ail yw Symud Sydyn . Dwi’n meddwl eu bod yn addas i blant tua 9-12 oed ac yn hŷn. Mae Camera Creulon yn dechrau gyda Matthew King yn prynu camera ail-law i’w dad mewn sêl cist car, ac mae e’n hapus iawn gyda'i anrheg. Ond roedd yn rhyfeddol o rad. Pam hynny? Wrth i Dad Matthew ddechrau tynnu lluniau, mae pethau ofnadwy yn digwydd - mae’r goeden geirios hyfryd yn yr ardd yn marw yn anesboniadwy o sydyn. Ond beth - neu bwy - fydd nesaf? Beth yw dirgelwch y camera? Dwi’n meddwl bod y stori yma yn wych. Mae’n dechrau gyda diwrnod a digwyddiadau cyffredin ac mae’r awdur wedi llwyddo yn y ffordd mae’n creu rhyw fath o uchafbwynt o ofn, gyda'r diweddglo yn iasoer. Mae’r ail stori, Symud Sydyn , am fachgen o’r enw Henri sydd yn cael hen gyfrifiadur ar ôl marwolaeth ffrind ei dad. Mae’r cyfrifiadur hwn yn od iawn. Mae e’n gallu dweud y dyfodol – ac yn rhagweld canlyniadau rasys ceffylau! Mae un o gymeriadau'r stori yn ceisio dwyn y cyfrifiadur, gyda chanlyniadau difrifol iawn i Henri. Er iddi fod yn stori dda iawn, doeddwn ddim yn ei hoffi gymaint â Camera Creulon . Nid yw’r awyrgylch cweit mor frawychus y tro hwn. Mae pethau yn aros yn weddol ‘normal’ tan y dudalen olaf, ond mae rhaid dweud ei bod yn gorffen gyda ‘bang!’ Dwi’n meddwl bod Antony Horowitz yn awdur arbennig o dalentog a bod yr addasiad hwn yn dda iawn hefyd. Bargen am £3.99!
Share
