Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Anthony Horowitz: Llosgi
Cyfres Anthony Horowitz: Llosgi
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Wncwl Nigel yn benderfynol o gael lliw haul. Ond mae Tim yn credu fod rhywbeth sinistr yn digwydd pan mae croen ei ewythr yn llosgi a'i ymennydd yn dechrau ffrio. Wedi i Bart brynu clust mwnci hud a lledrith mewn marchnad yn Marrakesh, mae'n dysgu taw gêm beryglus yw swyngyfaredd - efallai y daw eich dymuniad yn wir.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Uncle Nigel is determined to get a sun tan. But Tim is sure there is something sinister going on, when his uncle's skin starts to frazzle and his brain begins to fry. When Bart buys a magical monkey's ear in a market in Marrakesh, he discovers that making wishes is a dangerous game - you might just get what you wish for. A Welsh adaptation of Burnt .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781904357209
- Gwales Code
- gwales.com.9781904357209
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Anthony Horowitz: Llosgi
- Awdur / Author
- Horowitz, Anthony
- Current Price ex VAT
- £1.99
- Current Price inc VAT
- £1.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-05-16
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Editor
- Council, Welsh Books
- Translator
- Gruffydd, Mari
- Darlunydd / Illustrator
- Books, Orchard
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 80 pages
- Size
- 12.8 × 19.2 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Sawl un ohonom, tybed, a welodd waith Anthony Horowitz ar y teledu heb sylweddoli mai ef oedd yr awdur? Ef yw awdur Foyle’s War , nifer o benodau o Midsomer Murders ac amryw o addasiadau Poirot, Agatha Christie. Mae’n enwocach fyth fel awdur llyfrau plant a phobl ifanc. Yn y gorffennol, bûm yn feirniadol o’r arferiad o addasu nofelau Saesneg i’r Gymraeg. Ond yn yr achos hwn, fedra i ddim cwyno. Mae Horowitz yn gymaint o feistr ar genre arswyd fel y croesawaf yr addasiad hwn yn fawr iawn. Mae’n un o bump o gyfrolau Horowitz a addaswyd yn effeithiol iawn gan Tudur Dylan Jones. Camp Horowitz yw troi digwyddiadau cwbl gyffredin yn bethau arswydus. Mae’r wyneb yn aml yn hardd, ond oddi tano mae pydredd. Dyw pethe byth mor syml ag y maent yn ymddangos. Ond mae’r arswyd yn aml yn cael ei leddfu â hiwmor. Ceir tair stori yn y gyfrol. Yn y gyntaf, ar ffurf dyddiadur ei nai, cawn wybod bod Wncwl Nigel yn dymuno cael lliw haul. Ond sylwa’r nai fod rhywbeth mawr o’i le pan wêl fod ei wncwl yn mynd drwy weddnewidiad, yn gorfforol ac yn feddyliol. Mae’r ail stori yn mynd â ni i farchnad ym Marrakesh, lle mae yna gynifer o straeon ag sydd yna o bethau ar werth. Mae gweithred ffôl Bart Becker wrth iddo brynu clust mwnci yn arwain at un o’r straeon hynny. Am y drydedd stori, mae gweledigaeth yr awdur yn wyrthiol. Dyma, yn sicr, y dull mwyaf dyfeisgar a luniwyd erioed er mwyn dial. Hon, meddai Horowitz, yw’r stori arswyd leiaf a ysgrifennwyd erioed. Ond mae yna fwy ynddi nag sydd mewn ambell nofel gyfan. Am flynyddoedd, teyrnasodd Roald Dahl yn ddiwrthwynebiad fel brenin llyfrau ‘gwahanol’ i blant a phobl ifanc. Gyda chyfrolau Horowitz, mae yna fygythiad i goron Dahl.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Uncle Nigel is determined to get a sun tan. But Tim is sure there is something sinister going on, when his uncle's skin starts to frazzle and his brain begins to fry. When Bart buys a magical monkey's ear in a market in Marrakesh, he discovers that making wishes is a dangerous game - you might just get what you wish for . . .
Share
