Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Anthony Horowitz: Ofn

Cyfres Anthony Horowitz: Ofn

Regular price £1.99 GBP
Regular price Sale price £1.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae Gary yn casáu cefn gwlad. Mae'n ddiflas. Ond efallai bod cefn gwlad yn casáu Gary hefyd? Mae Kevin yn dwlu ar gemau cyfrifiaduron, ond mae'r gêm ddiweddaraf yn mynd y tu hwnt i bob rheol a rheswm. Mae Howard wedi cael damwain angheuol, ond a fydd e'n mynd i'r nefoedd ... neu i uffern? Addasiad Cymraeg o Scared .

Disgrifiad Saesneg / English Description

Gary hates the countryside. It's boring. But something has got it in for Gary. Perhaps the countryside hates him too? Kevin loves computer games, but this latest one breaks all the rules, and it's ruthless. Howard's had a fatal accident but will he end up in heaven ... or hell? A Welsh adaptation of Scared .

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781904357179
Gwales Code
gwales.com.9781904357179
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Anthony Horowitz: Ofn
Awdur / Author
Horowitz, Anthony
Current Price ex VAT
£1.99
Current Price inc VAT
£1.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-02-19
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Editor
Council, Welsh Books
Translator
Gruffydd, Mari
Darlunydd / Illustrator
Books, Orchard
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
80 pages
Size
12.8 × 19.2 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma dair stori arswyd wedi eu hanelu at yr arddegau cynnar o waith Anthony Horowitz ac wedi eu haddasu i’r Gymraeg gan Mari George. Mae Horowitz yn awdur poblogaidd a disgrifiwyd ef yn y Times Educational Supplement fel `nofelydd plant o’r radd flaenaf’. Mae’r stori gyntaf `Gari Jones ar Goll’ yn portreadu bachgen pymtheg oed sy’n anfodlon iawn ar ei fyd. Er i’w fam ei berswadio i fynd gyda hi i sir Fôn at ei Nain am gyfnod, parhau yn anfodlon gyda phawb a phopeth y mae Gari. Mae wedi colli ei dad ond nid oedd ar delerau da â hwnnw chwaith pan oedd yn fyw. Tybed a oedd cefn gwlad yn ei gasáu hefyd? Mae’r ail stori `Gyrfa mewn Gêmau Cyfrifiadur’ yn llawn o ddigwyddiadau a sefyllfaoedd annisgwyl ac erchyll. Mae’r stori’n dechrau gyda Kevin yn ymateb i hysbyseb am swydd ryfedd oedd wedi ymddangos yn ffenest y siop bapurau. Nid oedd angen profiad na chymwysterau ond telir y gyflog uchaf a bonws. Daeth galwad i Kevin fynd am gyfweliad a dyna ddechrau ar gyfres o ddigwyddiadau arswydus oedd yn torri pob rheol. Dyma stori sy’n anfon ias i lawr eich cefn. Hari yw prif gymeriad y drydedd stori - bachgen sy’n colli llawer iawn o ysgol ac un diwrnod, cafodd ddamwain angheuol wrth groesi’r ffordd. Credodd ei fod wedi cyrraedd y nefoedd a bod Pedr yn ei gyfarfod yno wrth y gatiau ag allweddi yn ei law. Bu yno am gyfnod hir nes ei fod wedi ’laru ar y lle. Penderfynodd ddod oddi yno a phan wnaeth Pedr ddiosg ei farf, sylweddolodd Kevin mai twyll oedd y cyfan. Rwy’n sicr y caiff darllenwyr sy’n mwynhau storïau arswyd flas ar y darllen yn y llyfr hwn. Diolch i Mari George am ddefnyddio iaith mor safonol a darllenadwy wrth eu haddasu.

View full details