Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Bananas Glas: Nefydd y Marchog Drygionus a'r Ceffyl Hedegog

Cyfres Bananas Glas: Nefydd y Marchog Drygionus a'r Ceffyl Hedegog

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae'n ddiwrnod y twrnamaint yng Nghastell Crecian, ond a all Dilys y Ddraig gadw Nefydd, y marchog drygionus, rhag mynd i helynt? Addasiad Cymraeg o Norman the Naughty Knight and the Flying Horse by Elin Meek.

Disgrifiad Saesneg / English Description

It's the day of the jousting tournament in Crecian Castle, but will Dilys the Dragon succeed in keeping Nefydd, the mischievous knight, out of trouble? A Welsh adaptation of Norman the Naughty Knight and the Flying Horse by Elin Meek.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781784230753
Gwales Code
gwales.com.9781784230753
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Bananas Glas: Nefydd y Marchog Drygionus a'r Ceffyl Hedegog
Awdur / Author
Prasadam-Halls, Smriti
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Out of print
Availability Status (CY)
Allan o brint
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-03-17
Cyhoeddwr / Publisher
Dref Wen
Translator
Meek, Elin
Darlunydd / Illustrator
Smith, Ian
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
48 pages
Size
150 × 200 mm; depth 3 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Marchog bychan yw Nefydd ond mae ganddo ambell i stori fawr! Dyma lyfr llawn cyffro a sbri o gyfres Bananas Glas, gwasg y Dref Wen a gaiff ei anelu at ddarllenwyr cynnar. Yn bendant roedd y llinyn stori yma yn ddigon i gynnal sylw fy merch 5 (a hanner!) oed dros sawl noson; cam ymlaen o lyfrau darllen mwy diflas y gellid eu gorffen mewn un eisteddiad, sydd yn aml â’r testun ar gefndir plaen ar un dudalen a’r llun ar y dudalen gyferbyn. Ond yn Nefydd y Marchog Drygionus a’r Ceffyl Hedegog , mae’r testun wedi ei osod yn ddeniadol o amgylch y tudalennau, gyda’r lluniau lliwgar, digri yn dod â’r stori yn fyw. Mae hi’n ddiwrnod y twrnamaint yng Nghastell Crecian ac mae brolio gwag Nefydd wedi arwain ato’n cael ei ddewis i gymryd rhan. Er gwaetha’r ymarfer, mae’n profi’n anobeithiol gyda gwaywffon, a phan mae Clop, ei geffyl yn rhedeg i ffwrdd mewn braw mae’n rhaid i Dilys y ddraig anwes gamu i’r adwy... ond mae gan ddraig un fantais fawr dros y Marchog Coch a’i geffyl... pâr o adenydd! Mae’r llyfr hwn gyda’i swigod siarad a’i frawddegau byrion yn benthyg ei hun yn dda i rannu’r darllen fel y gwnes i a Lois y tro hwn, ond wrth iddi fynd yn hŷn dwi’n siwr y caiff fwynhad o ddarllen y cyfan ar ei phen ei hun. Roedd hi’n mwynhau dysgu ystyr nifer o eiriau newydd megis ‘carlamu’, ‘twrnamaint’ ac ‘arfwisg’ ac roedd enwau doniol rhai o’r cymeriadau megis ‘Syr Prys Pants Swnllyd’ wedi peri iddi chwerthin allan yn uchel! Yng ngeiriau Lois: “Fy hoff ran i oedd pan aeth helmed Nefydd yn sownd yn ei arfwisg ar ddechrau’r ymryson, a’r marchog arall yn rhedeg oddi ar y cae gan weiddi ‘Help! Help! Y Marchog Heb Ben!’ ...a hefyd pan oedd Dilys yn eistedd ar Nefydd bob tro yr adroddai stori RHY ddwl – ha ha!” Er bod y cyfieithiad yn lletchwith mewn ambell i le (ymryson twrnamaint?) doedd hyn yn tynnu dim oddi ar y mwynhad. Heb os, bydd y llyfr hwn yn apelio at fechgyn a merched 6+ oed sydd yn hoff o antur a stori dda.

View full details