Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Byd y Bwystfilod: 4. Tagus y Ceffyl-Ddyn

Cyfres Byd y Bwystfilod: 4. Tagus y Ceffyl-Ddyn

Regular price £2.49 GBP
Regular price Sale price £2.49 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae angen arwr ar Afantia. Wedi eu melltithio gan swyn dewin dieflig, mae'r bwystfilod hud fu'n gwarchod y tir unwaith, bellach yn ei ddinistrio. Mae Tagus, y ceffyl-ddyn, yn dychryn pobl ac anifeiliaid y gwastadiroedd - all Tom ei rwystro?

Disgrifiad Saesneg / English Description

Avantia needs a hero. Under the power of an evil wizard, the magical beasts that once protected the land are destroying it. Tagus the horse-man is terrorising the people and animals in the plains - can Tom stop him? Can you survive the beast quest?

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781904357971
Gwales Code
gwales.com.9781904357971
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Byd y Bwystfilod: 4. Tagus y Ceffyl-Ddyn
Awdur / Author
Blade, Adam
Current Price ex VAT
£2.49
Current Price inc VAT
£2.49
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-04-19
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Jones, Tudur Dylan
Darlunydd / Illustrator
Hyatt, David
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
130 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

‘Cyffrous, anturus ac weithiau’n frawychus’ oedd ymateb fy mab ar ôl iddo orffen darllen Tagus y Ceffyl-ddyn, sef y gyfrol ddiweddaraf yng nghyfres Byd y Bwystfilod sydd wedi’u haddasu i’r Gymraeg gan Tudur Dylan Jones. Mae e’n hoff iawn o’r gyfres hon ac wedi darllen pob un ohonynt hyd yma, ond dyma’r ‘orau eto’ yn ei farn ef. Doeddwn innau, ar y llaw arall, heb ddarllen yr un ohonynt cyn bachu ar y cyfle i bori drwy’r stori hon. Ond ni theimlais fod hynny’n anfantais wrth ddarllen gan fod digon o’r hanes wedi’i gynnwys yn y stori. Fel yr esbonia’r llythyr gan Aduro’r dewin ar ddechrau’r llythyr, mae teyrnas Afantia mewn perygl mawr gan fod chwe bwystfil o dan felltith Moelfryn y Dewin Du yn rhedeg yn wyllt ac yn peryglu heddwch y deyrnas. Mae’r cyfrolau cyntaf eisoes wedi ein cyflwyno i’r ddraig dân, neidr fôr a chawr y mynydd, ond ceffyl-ddyn fydd yn bygwth dyfodol Afantia sydd yn y stori dan sylw. Yr arwr fydd yn ceisio ei rwystro rhag gwneud hynny ac achub teyrnas Afantia fydd bachgen ifanc o’r enw Tom ac yn gefn iddo ef y mae ei ffrind, Elena; ei geffyl ffyddlon, Storm; a’r blaidd, Arian. Yn gefndir i’r cyfan y mae gwastadeddau a phentrefi Afantia, ac mae’r map ar ddechrau’r gyfrol yn ddefnyddiol dros ben. Mae’r stori yn llifo’n rhwydd ac yn symud yn gyflym o un digwyddiad i’r llall gan hoelio sylw’r darllenydd. Mae hyd y penodau yn arbennig o addas i fedru rhoi’r llyfr i lawr bob hyn a hyn, ond mae’n annhebyg y byddech am wneud hynny yn rhy aml chwaith gan fod diwedd pob pennod yn gorffen gyda thro cyffrous sy’n gadael y darllenydd yn awchu am wybod mwy. Ceir disgrifiadau arbennig o dda yn ogystal, yn arbennig y rhai o Tagus ei hun, ac wrth ddarllen ambell un ohonynt fe’n hatgoffir beth yw maint y dasg sy’n wynebu Tom: ‘Bwystfil yn erbyn bachgen. Bwystfil a bachgen yn rhedeg yn syth am ei gilydd. Doedd dim ffordd y gallai Tom guro Tagus. Roedd y ceffyl-ddyn bum gwaith yn fwy nag yntau a deg gwaith yn gryfach. Byddai un ergyd gan fraich Tagus yn llorio Tom yn syth.’ A fydd yr arwr yn achub y dydd? Bydd yn rhaid i chi ddarllen y stori i gael gwybod yr ateb. Ar ddiwedd y gyfrol, cawn ein hatgoffa bod yna fwy o anturiaethau yn ein haros yn y gyfrol nesaf ac rwy’n adnabod un bachgen o leiaf sy’n edrych ymlaen yn eiddgar at ddarllen Rhewfys Anghenfil yr Eira cyn bo hir!

View full details