Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Catherine Barr: Stori Newid Hinsawdd

Cyfres Catherine Barr: Stori Newid Hinsawdd

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Gan gyfuno hanes a gwyddoniaeth, mae'r llyfr hwn yn darlunio'r newidiadau yn hinsawdd y Ddaear, o ddechreuadau'r blaned a'i atmosffer, hyd at y chwyldro diwydiannol a gwawr peirianwaith. Caiff darllenwyr ifanc ddysgu am achosion newid hinsawdd megis ffermio ffatri a llygredd, ynghyd â'r effeithiau y caiff newid hinsawdd ar ddynoliaeth ac anifeiliaid ar draws y byd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Combining history with science, this book charts the changes in our Earth's climate, from the beginnings of the planet and its atmosphere, to the Industrial Revolution and the dawn of machinery. Kids will learn all about the causes of climate change, such as factory farming and pollution, and the effects that climate change has on humans and animals across the world.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781849675376
Gwales Code
gwales.com.9781849675376
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Catherine Barr: Stori Newid Hinsawdd
Awdur / Author
Barr, Catherine; Williams, Steve
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-02-23
Cyhoeddwr / Publisher
Rily
Translator
Lewis, Siân
Darlunydd / Illustrator
Husband, Amy
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
40 pages
Size
241 × 274 mm; depth 5 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Llyfrau Cyfair) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Non-Fiction) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Gwyddoniaeth - Cyffredinol (yn Gymraeg) | EN: Science - General (in Welsh)
FSC Status
FSC certified (mixed sources) — C020056

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Heb amheuaeth, dyma un o’r llyfrau pwysicaf y byddwch chi’n ei ddarllen ’leni! Ydych chi wedi drysu gyda thermau fel ‘cynhesu byd eang’ a ‘newid hinsawdd'? Ydych chi’n chwilio am lyfr sy’n esbonio hyn i gyd, a llawer mwy, mewn ffordd hawdd ei deall? Wel, os felly, dyma’r llyfr perffaith i chi! Mae Stori Newid Hinsawdd yn gwneud ‘be mae o’n ei ddweud ar y tun’ – dyma lyfr sy’n cyflwyno stori amgylcheddol ein planed o’r cychwyn cyntaf un hyd at y presennol, sy’n dipyn o gamp i’w wneud mewn un llyfr! Mae lluniau lliwgar Amy Husband a Mike Love yn ardderchog, ac yn bwysig iawn ar gyfer esbonio rhai o’r cysyniadau sy’n cael eu trafod. Dyma lyfr sy’n sicr yn edrych yn dda iawn, ond un sy’n cynnwys lot o wybodaeth hefyd. Fe gewch chi’ch synnu cymaint o wybodaeth a ffeithiau sydd wedi eu gwasgaru ar draws y tudalennau. Cychwynna’r llyfr filiynau o flynyddoedd yn ôl, mewn cyfnod cyn y dinosoriaid, pan oedd y blaned yn ifanc iawn. Yna, rydym yn hepgor cyfnod y bobl gyntaf ac yn neidio o amser cynhanesyddol yn syth at Oes Fictoria a’r chwyldro diwydiannol. Fe ddysgwn am sut mae ffatrïoedd a ffermio dwys yn rhyddhau nwyon i’r atmosffer a sut y gall hyn arwain at newidiadau mawr i’n planed a’n ffordd o fyw. Mae'r llyfr yn cydnabod mai ni, y bobl, yw achos newid hinsawdd y blaned, ond mae’n esbonio hyn yn glir heb geisio dychryn darllenwyr iau fel mae rhai llyfrau’n gwneud. Mi fydd y llyfr yn adnodd arbennig o ddefnyddiol yn yr ystafell ddosbarth ar gyfer gwaith ymchwil, gan ei fod ar lefel addas iawn i CA2. Yn y cwricwlwm newydd, bydd mwy o bwyslais ar weithio’n drawsgwricwlaidd – rhywbeth y mae’r llyfr yma yn sicr yn cynnig y cyfle i’w wneud, gan ei fod yn cynnwys elfennau o ddaearyddiaeth, gwyddoniaeth a hanes. Er bod materion eraill yn llenwi’r penawdau i gyd, mae’n rhaid i ni gofio bod argyfwng yr hinsawdd yn parhau i fod yn un o fygythiadau mawr ein hoes. Os ydym am barchu’r ddaear a ffeindio ffyrdd mwy cynaliadwy a gwyrdd o fyw, bydd rhaid i bawb weithio gyda’i gilydd i gyrraedd y nod. Dyma obeithio y bydd y llyfr yma’n ysbrydoli ac yn sbarduno gwyddonwyr, peirianwyr, dyfeiswyr a gwleidyddion y dyfodol i weithredu ac i achub y Ddaear!

View full details