Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Cloch: Gwraig i'r Eryr a Helynt Gwion
Cyfres Cloch: Gwraig i'r Eryr a Helynt Gwion
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Yr ail gyfrol mewn cyfres wreiddiol o 'lyfrau darllen hawdd' penigamp, pob cyfrol yn cynnwys dwy stori gref wedi'u hadrodd yn ffraeth mewn modd patrymog. Elfen bwysig yw'r darluniau llinell sy'n asio'n gelfydd â'r testun. Yma cawn ddwy stori fyrlymus wedi eu seilio ar straeon o'r Mabinogi, sef Eryr Gwernabwy a Chwedl Taliesin. Straeon ardderchog i'w darllen yn uchel yn ogystal.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The second title in a new, original series of 'easy to read books', each comprising two stories with appealing line drawings. This volume features stories based on two tales from the Mabinogion - Eryr Gwernabwy and Chwedl Taliesin. Excellent stories to be read aloud.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781845274917
- Gwales Code
- gwales.com.9781845274917
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Cloch: Gwraig i'r Eryr a Helynt Gwion
- Awdur / Author
- Llwyd, Mared
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-06-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Carreg Gwalch
- Darlunydd / Illustrator
- Stevenson, Peter
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 130 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gyfres newydd o storïau sy’n addas i’w darllen yn uchel i ddarllenwyr iau, neu ddarllenwyr ychydig yn hŷn i'w darllen ar eu pennau eu hunain, a cheir dwy stori ym mhob cyfrol. Mae’r storÏau yn y gyfrol dan sylw yn seiliedig ar ddwy o chwedlau Cymraeg o’r Mabinogion – 'Gwraig i’r Eryr' o Chwedl Culhwch ac Olwen, a 'Helynt Gwion' o Chwedl Taliesin. Cyn priodi Tylluan Cwm Cawlyd mae’n rhaid i Eryr Gwernabwy sicrhau bod y dylluan mor hen ag o, ac i’r perwyl hwn mae’n gofyn i rai o’i ffrindiau o blith yr anifeiliaid i'w helpu. Wrth i’r eryr ymweld â’r anifeiliaid yn eu tro ceir llawer o ailadrodd patrymau brawddegol. Ailadroddir ansoddeiriau i bwrpas, er enghraifft, hen, hen, doeth, doeth. Defnyddir ymadroddion Cymraeg, er enghraifft ‘a’i ben yn ei blu’, ‘ffwr-bwt’ a disgrifiad da yw hwnnw o Lyffant Cors Fochno yn ‘anadlu a blincio, anadlu a blincio’. Mae'r ail stori yn reit gyfarwydd – am ymgais Ceridwen y wrach i newid Morfran, ei mab ‘hyllach na hyll a thwpach na thwp’, i fod y person mwyaf golygus a galluog yn y byd a sut y bu i Gwion Bach ddianc rhag y wrach a chael ei aileni’n Taliesin. Yma eto defnyddir iaith lafar, er enghraifft, y disgrifiad o Morfran fel ‘penci gwirion’ a’r modd y ‘sgrialodd’ Gwion Bach i’r goedwig. Mae’r ddwy stori yn ymwneud ag anifeiliaid ac mae’r darluniau du-a-gwyn yn gweddu’n berffaith. Llwyddodd yr awdur i gyflwyno dwy o’n chwedlau brodorol enwocaf i gynulleidfa o ddarllenwyr ifanc. Melys, moes, mwy!
Share
