Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Cymêrs Cymru: 6. Cymeriadau Maldwyn
Cyfres Cymêrs Cymru: 6. Cymeriadau Maldwyn
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Cyfrol hyfryd o bortreadau o wahanol gymeriadau ardal Maldwyn, wedi'u casglu a'u cofnodi gan Hedd Bleddyn, y saer maen a'r limrigwr ffraeth o Benegoes. O Pryce Pryce-Jones, dyn y catalogau masnachol cyntaf, i John Foeldehaearn a straeon celwydd golau Sam Mawr, fe gewch chi yma doreth o straeon difyr am gymeriadau unigry w Maldwyn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
An entertaining volume recording stories about colourful characters.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780860742647
- Gwales Code
- gwales.com.9780860742647
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Cymêrs Cymru: 6. Cymeriadau Maldwyn
- Awdur / Author
- Bleddyn, Hedd
- Current Price ex VAT
- £5.95
- Current Price inc VAT
- £5.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-11-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gwasg Gwynedd
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 146 pages
- Size
- 129 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Bywgraffiadau - Cymysg (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Mixed (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Hedd Bleddyn yw’r golygydd, ond fe gyfrannodd Alwyn Hughes o Langadfan hefyd at y gyfrol, ac nid yw bob amser yn glir pwy yw’r ‘fi’ sy’n traethu. Rwy’n cymryd mai Hedd yw’r ‘fi’ yn y portread o Deulu Cwmpen a Taid (tt.57–65), ac mai Alwyn yw’r ‘fi’ yn y portread o John Foeldrehaearn (tt.87–91). Cymeriadau Maldwyn yw’r teitl, ond y mae o leiaf ddau o’r rhai a bortreadir yma yn frodorion o Feirionnydd – Glyn Rowlands o Gorris a Sam Evans o Bennal. Mae eraill a fyddai’n haeddu eu lle mewn llyfr ar enwogion go iawn. Roedd Llewelyn Morris Humphreys (1899-1965) o Garno, partner Al Capone ym myd gangsters Chicago, yn fwy o droseddwr nag o gymêr, mi dybiwn i, ac felly hefyd Deio Penllys, Bugail Dartmoor (1849-1929), a dreuliodd y rhan fwyaf o’i oes mewn carchardai. Dyn busnes craff wedyn oedd Pryce Pryce-Jones (1834-1920), sylfaenydd y busnes archebu trwy’r post cyntaf yn y byd. A bardd gwlad oedd Demetrius Owen (1859-1948). Mae’r gweddill yn gymeriadau yng ngwir ystyr y gair – Jones y Monumental (un arall a anwyd ym Mhennal ym Meirionnydd), Richard Hughes, John Jones Fron-goch, Morfydd Thomas, Maurice Evans, John Ellis Lewis Foeldrehaearn, Arwyn Evans Tŷ Isaf, William John Davies Llanbryn-mair, Sarah Maud Hughes a Dafydd Wyn Jones – a llawer ohonynt wedi gwneud cyfraniad gwiw at ddiwylliant eu bröydd. Mae’r portreadau a geir ohonynt yn darlunio bywyd yng nghefn gwlad Maldwyn yn y ganrif ddiwethaf a ffordd o fyw sydd bellach yn ddieithr iawn. Mae yn y llyfr, ar wahân i’r portreadau o unigolion, adran o straeon doniol a straeon celwydd golau, ac adran hefyd ar rai o ddynion busnes a hen grwydriaid yr ardal. Llyfr llawn hiwmor yw hwn, ac mi fyddai’n bosibl llunio olynydd iddo hefyd, oherwydd, fel y dywed y golygydd yn ei gyflwyniad, ‘Mae’n debygol fod yna lawer iawn mwy o “gymêrs” y gellid bod wedi’u cynnwys’. Ac maen nhw’n dal i’w magu nhw ym Maldwyn.
Share
