Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Cymêrs Cymru: 7. Cymeriadau Llŷn

Cyfres Cymêrs Cymru: 7. Cymeriadau Llŷn

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Yma cawn gyfarfod, ymhlith eraill, un o bêl-droedwyr ffyrnicaf Cymru, gweinidog parod ei ddyrnau, ocsiwnïar parod ei dafod, siopwr oedd â'i fryd ar sythu Tŵr Pisa, trempyn neu ddau a gwerthwr pysgod dwyieithog - Fresh Fish! Ffish ffresh!

Disgrifiad Saesneg / English Description

An entertaining volume recording stories about colourful characters.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742784
Gwales Code
gwales.com.9780860742784
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Cymêrs Cymru: 7. Cymeriadau Llŷn
Awdur / Author
Gwynedd, Gwasg
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-11-22
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Editor
Roberts, Ioan
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
148 pages
Size
123 × 182 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Bywgraffiadau a Chofiannau (yn Gymraeg) | EN: Biographies (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Bywgraffiadau - Cymysg (yn Gymraeg) | EN: Biographies - Mixed (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma gasgliad o bymtheg o storïau am gymeriadau unigryw Llŷn. Brodor o Lŷn ydy'r golygydd, ac o Lŷn hefyd y daw deg o awduron y penodau, felly cawn gyfrol yma am gymeriadau'r ardal gan bobl o’r ardal. Mae rhai o’r awduron yn gyfarwydd iawn â'r cymeriadau y maent yn eu cyflwyno ac yn adrodd y stori o safbwynt adnabyddiaeth agos a phersonol. Mae eraill yn cyflwyno cymeriadau gyda gogwydd ychydig yn fwy gwrthrychol. Ffrwyth cyfweliad yw ambell gyfraniad, ac mae rhai o'r penodau'n deillio o ymchwil hanesyddol. Golyga hyn fod arddull amrywiol i’r gyfrol. Ganwyd pob un o’r cymeriadau, ac eithrio Dic Aberdaron, yn yr ugeinfed ganrif, ac mae rhai ohonynt yn dal i fyw yn Llŷn heddiw. Teimlir, felly, er mor unigryw ydyw hanes Dic, nad oes angen ei gynnwys yma mewn gwirionedd. Pobl â chefndiroedd gwahanol a geir yma – pobl cae pêl-droed, maes eisteddfod, buarth a ffridd, a'r môr. Cawn yma ocsiwnïar a gyrrwr lorri laeth, gweinidog yr efengyl ac ambell drempyn. O’r un ar bymtheg o gymeriadau, tair merch yn unig sydd wedi eu cynnwys, ond mae pawb sydd rhwng cloriau'r gyfrol â'u gwreiddiau yn ddwfn yn naear Llŷn. Wrth ddarllen, cawn ein hatgoffa fod gan bob un ohonom, er ein bod yn unigryw, nodweddion ein teulu a’n cymdeithas yn rhan o'n gwead. Cipolwg ar bob cymeriad yn hytrach na'r stori'n llawn a geir yma, ond er hynny, llwyddodd yr awduron i ddal natur pob cymeriad yn ddeheuig. Yn sicr, mae yma ddeunydd darllen diddorol gyda chryn dipyn o hiwmor, a da yw cael llun o’r cymeriad ar ddechrau bob pennod ac ar y clawr. Dyma lyfr o ddiwyg glân sy’n hawdd ei ddarllen. Mae’n llyfr difyr i rai sydd â diddordeb mewn pobl, eu dywediadau, eu harferion a’u campau.

View full details