Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Draenog Bach: Un Diwrnod Gwlyb
Cyfres Draenog Bach: Un Diwrnod Gwlyb
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae Draenog Bach wrth ei fodd yn deffro un bore a chanfod ei bod hi'n bwrw glaw. O'r diwedd, gall wisgo ei got, ei het a'i esgidiau glaw newydd, hyfryd, heb sôn am ddefnyddio ei ymbarél sgleiniog. Ond wrth i'r glaw waethygu ac i'r gwynt godi, mae diwrnod gwlyb Draenog Bach yn troi'n dipyn o antur! Addasiad Cymraeg o One Rainy Day . Dilyniant hyfryd i Un Noson Oer .
Disgrifiad Saesneg / English Description
The Little Hedgehog is thrilled to wake up one morning to see that it's raining. At last, he can wear his new coat, hat and wellies, and use his shiny umbrella. A Welsh adaptation of One Rainy Day and a sequel to Un Noson Oer .
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781843239611
- Gwales Code
- gwales.com.9781843239611
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Draenog Bach: Un Diwrnod Gwlyb
- Awdur / Author
- Butler, M. Christina
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-03-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Atebol
- Translator
- Lleinau, Sioned
- Darlunydd / Illustrator
- Macnaughton, Tina
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 225 × 275 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma stori fach syml ond effeithiol am anturiaethau Draenog Bach yn y glaw. Mae Draenog Bach wrth ei fodd yn gweld glaw oherwydd ei fod yn awyddus i wisgo’i ddillad glaw newydd, ac i fynd allan am dro. Mae’r got, yr het, yr esgidiau glaw a’r ymbarél oll yn sgleiniog, ac mae’r lluniau ohonynt yn sgleiniog ar bob tudalen. Pan wêl ei ffrind, Gwahadden, mae’n cynnig ei ymbarél iddi, ond mae’r gwynt yn chwythu’r ymbarél gan fygwth eu codi i’r awyr. Yna defnyddiant yr ymbarél fel cwch bach ar yr afon, nes i Cadno weiddi arnynt i ddod i achub teulu bach o lygod. Ânt â’r llygod i dŷ Mochyn Daear i sychu, ond yno mae’r glaw yn dod i mewn trwy’r to, ac felly dyma ddefnyddio’r ymbarél unwaith yn rhagor ac o’r diwedd mae pawb yn hapus ac yn sych. Bydd y cymeriadau hoffus a’r lluniau hyfryd yn apelio’n fawr at y plant lleiaf.
Share
