Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Dwlu Dysgu: Anifeiliaid Peryglus
Cyfres Dwlu Dysgu: Anifeiliaid Peryglus
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Llyfr cyfeirio/ffeithiau cyntaf ar gyfer plant sy'n dwli dysgu, yn llawn o ffotograffau a gwybodaeth anhygoel am rai o anifeiliaid ysglyfaethus mwyaf nodedig y byd. Mae'n cynnwys ffeithiau pwysig am bob un anifail, gan gynnwys maint, cynefin a hoff ysglyfaeth. Perffaith ar gyfer plant sy'n ysu i ddysgu!
Disgrifiad Saesneg / English Description
A first reference book for smart kids, packed with amazing photographs and information about some of the world's most deadly predators. Includes essential facts about each animal, including size, habitat and preferred prey. Ideal for fact-hungry kids!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781849672016
- Gwales Code
- gwales.com.9781849672016
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Dwlu Dysgu: Anifeiliaid Peryglus
- Awdur / Author
- Powell, Sarah
- Current Price ex VAT
- £6.99
- Current Price inc VAT
- £6.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-12-04
- Cyhoeddwr / Publisher
- Rily
- Translator
- Mair, Bethan
- Media Type (EN)
- Hardback
- Media Type (CY)
- Clawr caled
- Pages
- 30 pages
- Size
- 316 × 255 mm; depth 14 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Llyfrau Darllen Ffeithiol Cyntaf (yn Gymraeg) | EN: First Information Books (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma gyfrol a ddylai fod yn boblogaidd iawn mewn ysgolion. Mae anifeiliaid yn ddeniadol, ond ychwaneger y gair 'peryglus' a bydd llawer iawn o fodio ar y gyfrol. Addasiad o gyfrol Saesneg gan Steve Parker yw hon, ac y mae Bethan Mair wedi defnyddio geirfa syml ac addas wrth gyfieithu. Mae yma ryw ddau ddwsin o anifeiliaid yn cael sylw, a phob un yn cael tudalen gyfan. Ceir lluniau dramatig o'r creaduriaid, un 'ffaith ffyrnig' am bob anifail ynghyd â pharagraff byr yn disgrifio sut mae'r anifail yn byw ac yn hela. Yng nghornel pob tudalen ceir 'sgôr' i bob anifail. Efallai fod hyn yn gamarweiniol oherwydd mewn gwirionedd ceir tair ffaith: maint, cyflymder a sgôr hela – hynny yw un, elfen yn unig yw'r sgôr. Dyma gyfrol oedd yn agoriad llygaid i mi. Dywedir, er engraifft, mai'r anifail mwyaf peryglus a mwyaf effeithiol yn lladd ei brae ydi sglefren fôr bocs. Gall gwenwyn y sglefren ladd person mewn cyn lleied â phedwar munud. Ond rhag i rywun feddwl bod llew neu lewpart neu arth yn agos at fod mor effeithiol â'r anifeiliad bychain, anifail bach arall sydd yn ail o ran sgôr perygl yw'r mantis gweddïol. Gall y mantis ddal ei ysglyfaeth yn hanner yr amser mae'n ei gymryd i berson gau ac agor ei lygaid. Mae hon yn gyfrol hardd, ddeniadol fydd yn cipio dychymyg plant ac yn rhoi gwybodaeth ddifyr iawn iddynt. Mi all y gyfrol arwain at gwestiynau cwis diddorol ac amrywiol. Dyma enghraifft: Mewn sawl eiliad gall llewpart hela gyrraedd cyflymder o chwe deg milltir yr awr? Yr ateb – tair eiliad yn unig, waw! Porwch drwy'r gyfrol hon am ragor o ffeithiau rhyfeddol. Chewch chi mo'ch siomi.
Share
