Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Fflach Doniol: Gwyliau Pitw
Cyfres Fflach Doniol: Gwyliau Pitw
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori ddoniol gan awdur poblogaidd yn cyflwyno anturiaethau Pitw, bachgen dyfeisgar sy'n cynllunio taith llawn halibalŵ heb symud o'r unfan, mewn ymgais i ennill digon o arian er mwyn i'w deulu gael dau pen llinyn ynghyd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A humorous story by a popular author presenting the adventures of Pitw, a resourceful boy who designs a journey full of pandemonium without moving from home, in an attempt to win enough money to make ends meet for his family.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781855969995
- Gwales Code
- gwales.com.9781855969995
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Fflach Doniol: Gwyliau Pitw
- Awdur / Author
- Morgan, Gwyn
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-04-25
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dref Wen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Llyfr doniol a hwyliog yw Gwyliau Pitw gan Gwyn Morgan. Cawn glawr lliwgar a deniadol gan Dai Owen sy’n gwneud ichi ysu i’w ddarllen. Y cymeriadau yw Pitw, Idris, Pat, Mr Patel a’i deulu a Geraint sef GPR. Mae Idris, tad Pitw, yn ddyn pwyllog a brwdfrydig. Bachgen hapus a gweithgar yw Pitw sy’n llawn syniadau ac yn datblygu ei sgiliau i fod yn entrepreneur ! Mae Pat, mam Pitw hefyd yn weithgar a phob amser yn brysur iawn. GPR yw ffrind pennaf Pitw ac mae’n fachgen caredig a brwdfrydig. Ond dydy bywyd ddim yn fêl i gyd; yn anffodus mae Idris yn colli ei waith gan fod adran y brifysgol yn cau. Felly mae’r teulu oll yn gorfod arbed arian. Yn y gorffennol roedd y teulu yn cael digonedd o bopeth, megis gwyliau moethus i ynysoedd pell. Mae Pitw angen cynllunio sut i wneud arian er mwyn cael bywyd moethus unwaith eto. Er mwyn cadw dau ben llinyn ynghyd mae Pitw yn mentro cychwyn busnes gyda chymorth GPR. Cawn antur gyda’r ddau wrth iddynt geisio creu gwyliau moethus llawn hwyl a sbri, a gwyliau cyffrous a hudolus heb symud o’r unfan! Yna, un, dau, tri i ffwrdd â nhw i Fecsico gyda theulu Dr Patel. Mae pawb yn ymuno yn yr hwyl i deithio’r byd gan chwarae rôl. Felly, i ffwrdd â chi hefyd ar eich gwyliau gyda Pitw a’i gyfeillion. Mae Gwyn Morgan wedi llwyddo i ddefnyddio iaith gyfoethog, lawn priod-ddulliau. Dyma lyfr apelgar sydd â lluniau du a gwyn deniadol gan Dai Owen. Yn fy marn i mae’r llyfr yn addas i blant sydd â meddwl dychmygus a byrlymus. Stori addas i'w ddarllen i blant rhwng 5 a 7 mlwydd oed yw hon er mwyn sicrhau eu bod yn ei deall, a gall ddarllenwyr hŷn ddarllen y print mân yn annibynnol. Felly paciwch eich bagiau a neidiwch i ganol meddwl llawn dychymyg Pitw, a mwynhewch eich gwyliau moethus ym Mecsico!
Share
