Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Fflach Doniol: Pogo Ping-Pong
Cyfres Fflach Doniol: Pogo Ping-Pong
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori ddoniol gan awdur poblogaidd am Pogo, plentyn hoffus a bodlon. Yn gwbwl annisgwyl, daw Pogo yn fachgen cyfoethog iawn, ond tybed a fydd yr holl arian yn ei wneud yn hapusach? Drwy gymorth llu o gymeriadau lliwgar, daw Pogo i ddeall beth yw cyfoeth go iawn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A humorous story by a popular author about Pogo, a happy and contented child. Unexpectedly, Pogo becomes wealthy, but will the money make him happier?
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784230531
- Gwales Code
- gwales.com.9781784230531
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Fflach Doniol: Pogo Ping-Pong
- Awdur / Author
- Morgan, Gwyn
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2016-03-18
- Cyhoeddwr / Publisher
- Dref Wen
- Darlunydd / Illustrator
- Owen, Dai
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 128 × 198 mm; depth 3 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Pan mae ewythr Pogo yn gadael $10,000,000 iddo yn ei ewyllys, mae bywyd Pogo yn newid am byth. Ond dydi derbyn swm anferthol o arian ddim yn dod â hapusrwydd yn ei sgil bob tro, ac er iddo fynd ar anturiaethau di-ri, mae Pogo yn darganfod nad yw bywyd yn fêl i gyd. Dyma lyfr newydd sbon gan Gwyn Morgan sy’n dipyn o agoriad llygad i blant a phobl ifanc. Mae’r papurau newydd wrth eu boddau yn dilyn hynt a helynt pobl gyfoethog. Mae sawl ewythr a modryb ym mywyd Pogo yn cymryd mantais o'i gyfoeth newydd wrth iddo brynu tanc milwrol i Fodryb Ceinwen, ac yn gwireddu breuddwyd Ewythr Deiniol o gael hedfan mewn balŵn. Er hynny, mae ei berthynas â’i rieni yn dioddef yn sgil ei gyfoeth, ac mae’r Turturiaid, criw sy'n byw mewn cartref plant, yn dysgu ambell beth pwysig iawn i Pogo am werthoedd go iawn. Mewn byd sy'n rhoi gwerth ar X Factor a'i debyg, a chymdeithas lle mae gan gynnwys eich cyfrif banc gryn ddylanwad, mae hwn yn llyfr gwerth chweil i blant ddod i’r afael â realiti bywyd a'r hyn sy'n cyfri mewn gwirionedd, ac mae'r stori'n sicr o godi pob math o gwestiynau. Mae’r llyfr hwn yn llawn hwyl a thywyllwch ar yr un pryd, ac yn stori fydd yn dysgu plant a phobl ifanc am y pwysigrwydd o gadw eu traed ar y ddaear.
Share
