Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Llenorion Cymru: 3. Cennad

Cyfres Llenorion Cymru: 3. Cennad

Regular price £12.95 GBP
Regular price Sale price £12.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma lên-gofiant un o feirdd amlycaf Cymru sy'n bwrw golwg dros ddeugain mlynedd a mwy o lenydda, o deithio at gynulleidfaoedd ym mhob cwr o Gymru a thu hwnt, ac o roi llais i ferched ym maes barddoniaeth. Cennad yw'r drydedd gyfrol yn y gyfres boblogaidd sy'n rhoi llwyfan i'n prif lenorion drafod eu bywyd a'r dylanwadau ar eu gwaith.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Poet Menna Elfyn looks back at over fourty years of writing, performing her work throughout Wales and further afield and of raising issues which are important to women in the 20th century in her work. Cennad is the third title in a popular series that gives contemporary Welsh literary figures a platform to discuss their life and the influences on their work.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781911584063
Gwales Code
gwales.com.9781911584063
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Llenorion Cymru: 3. Cennad
Awdur / Author
Elfyn, Menna
Current Price ex VAT
£12.95
Current Price inc VAT
£12.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-03-21
Cyhoeddwr / Publisher
Cyhoeddiadau Barddas
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
230 pages
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

Prolog Pennod 1: Magwraeth Pennod 2: Dylanwadau Pennod 3: Ymgyrchydd Anfoddog Pennod 4: Bardd a Benyw Pennod 5: Teithiau Barddonol Pennod 6: Cyfieithiadau Pennod 7: Brithgofion o Wyliau Llenyddol a Phreswylfeydd Pennod 8: Llenydda Pennod 9: O Weithdai Epilog Detholiad o Gyhoeddiadau

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Cafodd Menna Elfyn ei magu ar aelwyd y Mans ym Mhontardawe lle roedd ei thad yn weinidog gyda'r Annibynwyr. Y mae ganddi gysylltiad agos â Llandysul, a Phenrhiw-llan, lle'r ymgartefodd a magu teulu; bellach mae hi wedi symud i Gaerfyrddin lle bu, tan yn ddiweddar yn Athro Ysgrifennu Creadigol yn Adran Saesneg Prifysgol y Drindod, Dewi Sant. Y mae'n fardd ac yn llenor toreithiog, yn ddramodydd, cofianydd, libretydd a cholofynydd, ac mae ei cherddi, yn arbennig, wedi eu cyfieithu i sawl iaith. Ymysg ei casgliadau o gerddi mwyaf nodedig mae Perfect Blemish/ Perffaith Nam, New & Selected Poems 1995- 2007 ; Merch Perygl: Cerddi 1976-2011 (Gwasg Gomer, 2011), Murmur (Bloodaxe Books, 2012. Cyhoeddwyd ei chyfrol ddiweddaraf o gerddi, Bondo ym mis Hydref 2017 gan Bloodaxe Books.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

'Bu’r daith ddaearol hon o edrych dros fy ysgwydd ar bererindod lenyddol yn un fendithiol: seiniaf ‘diolch o’r newydd’. Siwrne siawns yw llwybr bywyd, hwyrach, a dyna ddwyn i gof mai rhai o’m hoff eiriau wrth gychwyn cyfansoddi oedd geiriau fel diarffordd, anhygyrch, ar ddisberod, i ddifancoll, anial a’r swmpus Feiblaidd anghyfaneddle. O, fel y gallwn leisio’r gair hwnnw yn ddi-ben-draw fel adnod unwaith a rhyfeddu ato. Daw llinellau lu yn ôl ataf gyda hyn: ‘Mor weddaidd ar y mynyddoedd yw traed y rhai sydd yn efengylu’. Ond cennad i farddoniaeth oeddwn, a do, croesais sawl milltir awyr ac aur er mwyn cyrraedd rhai mannau a oedd weithiau yn llai na gweddaidd. Ond dychwelais yn gyfoethocach bob tro o wybod bod yna fondo yno’n fendith.'

View full details