Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Lolipop: Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig
Cyfres Lolipop: Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Stori hwyliog i ddarllenwyr 6-8 oed gyda lluniau lliwgar drwy'r testun. 'O nefi wen! Beth nesa?' A hithau heb wneud ei gwaith cartref, does dim brys o gwbl ar Nanw i gyrraedd yr ysgol. A dyna ddechrau ar dipyn o antur gyda ffrind bach newydd a rhyfedd iawn.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A humorous, full colour illustrated story for 6-8 year old readers about Nanw, who loiters on her way to school as she has not completed her homework, and subsequently meets a strange new friend.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848516632
- Gwales Code
- gwales.com.9781848516632
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Lolipop: Nanw a Caradog Crafog Llwyd Lloerig
- Awdur / Author
- Llyn, Anni
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2013-02-28
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Flook, Helen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 129 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Anni Llyn yn gyflwynwraig teledu a hi oedd Prif Lenor Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Os am gyfarfod â chymeriadau doniol o gig a gwaed – ac o ffantasi, yna hon ydi’r gyfres i chi. Dydi llusgo traed ddim yn dod iddi pan mae Nanw angen ei hel hi i’r ysgol. Dydi hi ddim wedi gwneud ei gwaith cartref. Ond wrth iddi ymlwybro i grafangau Mrs Pwmpian, ei hathrawes wallgo, ddrewllyd, mae antur fawr ar droed a thybiaf na fydd Nanw fyth yr un fath wedyn! Mae gan Nanw ddychymyg heb ei ail, ac yn byw ym myd bach ei hun, ond beth sydd yn digwydd pan fo creadur rhyfeddaf y byd yn dod i mewn i’r byd hwnnw ar ei ffordd i’r ysgol? Yn sicr, does dim dwywaith nad yw Caradog Crafog Llwyd Lloerig yn ddigon o ryfeddod, ond ydi o am helpu Nanw a phicil y gwaith cartref? Mae hon yn chwa o awyr iach! Yn llawn hwyl, yn lliwgar ac yn waith gwreiddiol yn y Gymraeg. Oes, mae llond ceg o ymadroddion doniol, o hiwmor heintus, o enwau hirion ond hefyd rhai na wnewch chi eu hanghofio. Mae’r lluniau'n ddigon i godi calon unrhyw un ac yn gwneud i chi garlamu drwy’r llyfr wrth ei ddarllen yn uchel amser gwely. Wedi darllen hon hefyd, bydd dychymyg pob plentyn ar wib. Oes Caradog bach yn cuddio ar y ffordd i’r ysgol? Chwiliwch, da chi – fel y gwelwch wrth ddarllen hon – un handi ydi’r dyn bach hwn! Dyma stori liwgar a blasus sy’n llawn o sbort a sbri! Iym-iym-iym!
Share
