Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Lolipop: Pst! Ti'n Grêt!

Cyfres Lolipop: Pst! Ti'n Grêt!

Regular price £5.99 GBP
Regular price Sale price £5.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Roedd Sion yn drist oherwydd byddai symud i fferm yn fwy yn golygu y byddai'n gadael ei ffrind gorau ar ôl. Ond doedd Mam a Dad ddim yn gwybod am fodolaeth y 'ffrind' - ysbryd bach cyfeillgar a drygionus, o'r enw 'Pst', achos dyna'r unig air a ddywedai. Roedd Pst wedi cael Siôn mewn ac allan o drwbwl sawl gwaith ac roedden nhw'n cael tipyn o sbri.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Sion was sad because moving to a larger farm would mean leaving his best friend behind. But mam and dad did not know about the 'friend' - a friendly but naughty spirit. He was called 'Pst', because that was all he said. Pst had got Sion in and out of trouble many times, and they had lot's of fun.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848515345
Gwales Code
gwales.com.9781848515345
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Lolipop: Pst! Ti'n Grêt!
Awdur / Author
Jones, Gwen Redvers
Current Price ex VAT
£5.99
Current Price inc VAT
£5.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-12-12
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Darlunydd / Illustrator
Flook, Helen
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
64 pages
Size
129 × 197 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Symud tŷ, gadael ffrindiau, cynefino â chartref newydd ... na, dydi hi ddim yn hawdd ar Siôn. Mae’r llyfr hwn, sydd yn un o’r gyfres boblogaidd Lolipop, yn mynd i’r afael â’r holl helbul hwnnw o godi pac, er mwyn i dad Siôn brynu fferm fwy o faint, ond ydi pethau mor ddychrynllyd â hynny? Mae gan Siôn ffrind arbennig iawn sy'n llechu yn y cefndir ac yn cynnig help llaw pan fo angen. Hanes Siôn a’r ffrind anghyffredin hwn sydd yn y gyfrol, ac mae’r cyfrinachau y mae'r ddau yn eu rhannu yn fendigedig o ddoniol ar adegau. Pan mae Anti Agi – y fodryb gas – yn dod i aros, mae’r triciau yn ddiddiwedd. Druan ohoni! Mae’r ffaith mai Siôn yw’r unig berson yn y byd sy’n gallu gweld a chlywed Pst yn siŵr o chwarae ar ddychymyg unrhyw ddarllenydd ifanc. Dyma lyfr hawdd dros ben i’w ddarllen ac mae’n llawn o ddarluniau lliwgar. Mae’n un addas iawn ar gyfer plant i’w ddarllen neu fel stori i'w rhannu cyn cysgu. Peidiwch â phoeni, tydi Pst, y ffrind unigryw, ddim mor arswydus â hynny.

View full details