Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Mellt: Hwdi

Cyfres Mellt: Hwdi

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel ar gyfer disgyblion Blynyddoedd 7-9 i'w darllen fel dosbarth neu fel unigolion. Mae Gareth F. Williams yn feistr ar storïau sy'n codi gwallt eich pen a bydd Hwdi yn gwneud i chi edrych dros eich hysgwydd dro ar ôl tro ... Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 2013.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An exciting story by master novelist Gareth F. Williams for Year 7-9 pupils, with many hair-raising occurrences to keep readers looking over their shoulder time and time again ... Reprint. First published in 2013.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847716804
Gwales Code
gwales.com.9781847716804
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Mellt: Hwdi
Awdur / Author
Williams, Gareth F
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2017-09-07
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
195 × 130 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cyfres wedi'i hanelu at ddarllenwyr rhwng 11 a 14 oed yw Cyfres Mellt. Mae hi’n frith o nofelau gafaelgar sydd yn denu diddordeb. Ac i ti’r darllenydd, dydi Hwdi ddim yn siomi ac mae hi’n sicr o dy adael ar bigau’r drain ar ddiwedd pob pennod. Mae Lois a’i mam, Buddug, yn symud i dŷ newydd, ond cyn pen dim mae’r ferch yn taeru bod dihiryn yn llechu y tu ôl iddi neu wrth ei hochr. Mae pawb yn meddwl bod Lois yn un od ac nid yw’n cael llawer o gydymdeimlad gan ei ffrindiau. Wrth iddi rygnu drwy’r act fawr fod popeth yn iawn, mae pethau’n mynd o ddrwg i waeth ac nid yn unig dychmygu rhywun yn ‘lyrcio’ mae hi, ond daw llais ‘hen ddyn powld’ dros ei ffôn hefyd un diwrnod. Pwy gebyst yw’r dihiryn? Ai rhyw hen byrf yw hwn? A sut goblyn gall Lois gael ei wared? O weld y teitl mae rhywun yn tueddu i feddwl mai nofel ystrydebol yw hi am blant drwg ar berwyl, ond mae hon yn llawer mwy na hynny. Mae Hwdi yn un sydd yn dy yrru di i edrych dros dy ysgwydd wrth ddarllen, ond go brin y bydd neb yn dychmygu’r diweddglo dychrynllyd hwnnw. Dyma sy'n gwthio’r nofel i’r entrychion. Da ti, cofia gloi'r drws cyn ei darllen!

View full details