Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Mellt: Llwyth

Cyfres Mellt: Llwyth

Regular price £4.95 GBP
Regular price Sale price £4.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel gyffrous, anturus am lwythau gwahanol yn ymladd am eu hunaniaeth - y Bleiddiaid, y Brain, yr Eirth a'r Dreigiau. Wrth i'r gelyn fygwth eu trechu rhaid i'r llwythau ddod ynghyd a chydweithio er mwyn ennill y dydd.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An adventure novel about four different tribes fighting for their identity - the Wolves, the Crows, the Bears and the Dragons. As the enemy threatens, the tribes must unite to win the battle.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847716491
Gwales Code
gwales.com.9781847716491
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Mellt: Llwyth
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£4.95
Current Price inc VAT
£4.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-03-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
128 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Brwydrau brawychus, pwerau arbennig, gelynion dieithr, llwyth yn erbyn llwyth. Nage, nid gêm gyfrifiadurol mo hon, ond stori epig i blant hŷn sy'n eu hudo i’r oes a fu, i oes o gwffio gwaedlyd dros diroedd ac eiddo ac i oes sydd yn adlewyrchu hanes Cymru. Ond nid hefru trwy hen hanesion sydd yma, ond nofel bwerus hollol newydd, hollol Geltaidd y dylai pob plentyn ei darllen. Mae Bethan Gwanas wedi creu campwaith yma. Mae’r Bleiddiaid yn gweithio gyda’i gilydd yn gyfrwys ac yn gyflym. Mae’r Brain yn ddoeth ac yn ddringwyr o fri. Mae’r Eirth yn hoffus iawn ac yn hen lawiau ar daflu arfau. Mae’r Dreigiau yn gweithio’n unigol a gyda doniau arbennig iawn – maen nhw’n gallu gweld i’r dyfodol. Mae’r nofel hon yn seiliedig ar lwythau ar hyd a lled Cymru – rhai sy’n hela’n wyllt, ond yn amddiffyn eu pobl eu hunain, rhai sy’n hedfan ar gefn dreigiau ond hefyd yn fodlon aberthu eu bywydau dros eu tir. Y cymeriadau hyn sydd yn gwneud y stori mor bwerus, yn atseinio chwedlau ein cenedl, ac eto’n apelio at blant heddiw gan eu bod hefyd yn adlewyrchu arwyr goruwchnaturiol gemau cyfrifiadurol – rhywbeth sydd wastad yn plesio! Ond maen nhw hefyd o gig a gwaed, yn teimlo i’r byw, yn bradychu, yn hoffi a ddim yn hoffi ei gilydd ac yn coelio mewn credoau ac yn meddu ar ddaliadau gwahanol iawn i’w gilydd. Mae’r llyfr hwn hefyd yn frith o dafodieithoedd gwahanol ac yn adlewyrchu lleoliadau gwahanol yng Nghymru – hyn ynddo’i hun yn beth prin hefyd. Yn glyfar iawn, fe fydd y nofel hon yn denu diddordeb brwd mewn hanes ac yn ennyn diddordeb yn yr arwyr go iawn sydd wedi troedio Cymru. Mae’r darllenydd ifanc yn siŵr o orffen hon gyda dychymyg byw am oes y Celtiaid, ynghyd â deigryn yn ei lygaid, lwmp yn ei wddf ond yn caru Cymru yn fwy nag erioed.

View full details