Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Mellt: Pedwar

Cyfres Mellt: Pedwar

Regular price £4.95 GBP
Regular price Sale price £4.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel gyffrous yn dilyn pedwar yn ffoi o'u cartref sy'n llawn problemau ond yn darganfod bod bywyd oddi cartref yn eu gorfodi i wynebu problemau gwaeth.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An exciting novel about four youngsters who run away from a troubled home, only to discover that they are forced to face greater problems.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847716484
Gwales Code
gwales.com.9781847716484
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Mellt: Pedwar
Awdur / Author
Roberts, Lleucu
Current Price ex VAT
£4.95
Current Price inc VAT
£4.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-03-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Size
1 × 1 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma nofel ddarllenadwy iawn yn y gyfres Mellt, sef cyfres sydd wedi cael ei hanelu at Gyfnod Allweddol 3, sef disgyblion rhwng 11 a 14 oed. Hanes pedwar plentyn a geir yma: Mags (14 oed), Ari (13 oed), Nel (10 oed) a Cai (8 oed), a dyw bywyd ddim yn hawdd i’r pedwar. Does yna ddim sôn am dad ar yr aelwyd ac nid yr un tad sydd gan bob un o’r plant. Digon caled, felly, yw bywyd y fam a’r unig ffordd y mae hi’n medru dygymod â'r sefyllfa yw drwy yfed. Droeon mae’r pedwar yn gorfod edrych ar eu hôl eu hunain a hynny yn aml pan nad oes bwyd yn y tŷ na llawer o arian i dalu amdano. Dyma nofel ddigon cignoeth am bedwar sy’n crafu byw. Ari sy’n cymryd y cyfrifoldeb – mae gan Mags fwy o ddiddordeb mewn siarad ar y ffôn gyda’i ffrindiau a choluro, mae Nel yn bictiwr o ddiniweidrwydd a Cai yn medru bod yn hynod o ddrwg. Er bod yna wahaniaethau mawr rhyngddynt mae’r pedwar yn gytûn na ddylid sôn wrth neb eu bywyd yn y cartref, er bod y ddynes drws nesaf ar bigau’r drain eisiau cael gwybod eu hynt a’u helynt. Un diwrnod, ar ôl disgwyl a disgwyl, does ’na ddim sôn am y fam yn dod adre ac mae’r bwyd yn hynod brin. Yn waeth byth, mae'r afr yn sâl a rhaid galw’r milfeddyg, er nad oes arian i’w dalu. Beth petai rhywun yn dod i wybod yn union sut mae pethau ar y plant ac yn adrodd yr holl hanes i’r gwasanaethau cymdeithasol? Wrth i'r sefyllfa waethygu, doedd dim amdani ond mynd liw nos i Gaerdydd. Cofiai Ari, druan, fod ei fam, yn ystod rhyw gyfnod o feddwdod, wedi sôn am Wncwl Jeremy yng Nghaerdydd. Ond amser a ddengys a yw e’n gallu helpu’r pedwar. Mae’r digwyddiadau yng Nghaerdydd yn llawn cyffro ac ofn – fedrwch chi ddim roi’r nofel i'r naill ochr! Mae yna nifer o themâu yn y nofel hon. Ffyddlondeb yw’r un pennaf ac mae gweld y pedwar plentyn mor driw i’w gilydd ac i’w mam yn dod â deigryn i’r llygad. Dyma nofel sydd wedi’i hysgrifennu yn gelfydd ac y mae’n sicr o ysgogi sawl trafodaeth yn yr ystafell ddosbarth.

View full details