Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Nabod: 3. Dangos fy hun

Cyfres Nabod: 3. Dangos fy hun

Regular price £6.95 GBP
Regular price Sale price £6.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Hanes magwraeth a gyrfa amrywiol y digrifwr a'r cyflwynydd Tudur Owen, mewn cyfrol ddeniadol, yn llawn lluniau. Cawn weld sawl ochr i'w fywyd - ei fagu'n rhan o deulu mawr bywiog, camfihafio a thangyflawni yn yr ysgol uwchradd, ei benodi'n goediwr, bachu gwraig a dod yn dad, a llawer iawn mwy - yn cynnwys, wrth gwrs, creu a chladdu PC Leslie Wynne!

Disgrifiad Saesneg / English Description

The comedian and television presenter Tudur Owen tells the story of his childhood, and his varying career, in an attractive volume, full of photographs.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742760
Gwales Code
gwales.com.9780860742760
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Nabod: 3. Dangos fy hun
Awdur / Author
Owen, Tudur; Jones, Tudur Huws
Current Price ex VAT
£6.95
Current Price inc VAT
£6.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-10-26
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
60 pages
Size
200 × 200 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Tudur Owen yn dangos ei hun Mae gwên ddireidus Tudur Owen yn un gyfarwydd iawn, ond faint ohonom sy’n nabod y digrifwr tu ôl i’r jôcs? Yn ei hunangofiant newydd, Dangos Fy Hun (Gwasg Gwynedd) a gydysgrifennwyd gan Tudur Huws Jones, mae Tudur yn rhoi cipolwg o’i hanes o ddyddiau cynnar ei blentyndod ar Ynys Môn i gyfnod PC Leslie Wynne, comedi stand-yp a chyflwyno ar Radio Cymru. Mae cyfrol hwyliog Tudur (sy’n rhan o gyfres liwgar Nabod) yn olrhain hanes ei fagwraeth a’i yrfa law yn llaw â lluniau o albwm personol Tudur a’i deulu. “Dwi wedi trio llenwi’r gyfrol hefo digwyddiadau difyr a digri, a dwi’n gobeithio bydd y darllenwyr wrth eu boddau yn ei ddarllen,” meddai Tudur. “Mae hi’r math o gyfrol y bydd pobl yn troi’r tudalennau yn hytrach na darllen yn fanwl – mae o fel llyfr lloffion o mywyd.” Yn ogystal â hanes ei yrfa, ei deulu a’i ffrindiau, cawn gyfle i glywed Tudur yn sôn am ei angerdd dros gomedi, a’i siwrne hir a chaled i gyrraedd brig cylch comedi Prydain. “Ro’n i eisiau rhannu ychydig am pa mor anodd ydi’r cylch comedi byw. Dwi wedi sylweddoli bod rhaid gweithio’n galed i gyrraedd safon, achos nid ar chwarae bach mae gwneud stand-yp.” Cawn glywed hefyd am ei yrfa rygbi yn Llangoed a Chaernarfon – “Do’n i fawr o chwaraewr, a deud y gwir, ond mi o’n i’n mwynhau’r ochr gymdeithasol” – a’i hanes yn teithio’r byd gyda'i wraig, Sharon. Ond mae’r llyfr yma hefyd wedi bod yn gyfle i Tudur fynd haenen yn ddyfnach, ac yn y gyfrol mae o’n siarad yn ddi-flewyn-ar-dafod am anwybodaeth am Gymru, colli ei fam i Alzheimer’s, a mynd yn flin efo plismyn iaith. “Roedd yn brofiad cathartig mynd ati i greu’r llyfr ond un o’r pethau ’nes i addo i mi’n hun oedd bod mor onest â phosib. Mae wedi bod yn broses sydd wedi gwneud i fi feddwl lot am fy mywyd. A deud y gwir, mae o wedi bod yn emosiynol iawn,” meddai. Mae Tudur ar fin lansio menter newydd gyda’i wraig Sharon, sef caffi a lleoliad adloniant byw o’r enw Tŷ Golchi, rhwng Caernarfon a Bangor. “Mae pori trwy fy mywyd wedi gwneud i fi feddwl am y dyfodol. Dwi wastad wedi teimlo fod Cymru angen mwy o leoliadau ar gyfer comedi, felly penderfynais un diwrnod fy mod am agor lle fy hun. Mae hynna’n typical o’r ddau ohonon ni – dydan ni ddim yn meddwl llawer iawn am betha cyn eu gwneud. Un peth da, fydd hi’n lot haws i mi gael gigs gan mai fi fydd berchen y llwyfan!”

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Tudur Owen showing off His cheeky smile might be one of the most recognisable in Wales, but how many of us really know the man behind the jokes? In Tudur Owen’s new Welsh language book Dangos Fy Hun (Showing Off) by Gwasg Gwynedd, which was co-written by Tudur Huws Jones, the stand-up comedian and presenter reveals his life story, including his childhood growing up on Anglesey, his PC Leslie Wynne character and presenting on BBC radio. Presented in an engaging ‘scrapbook’ style, Tudur’s story, as part of the Nabod (Get to know) series, is told alongside various photos from the family albums. “I’ve tried to fill the book with humorous and entertaining anecdotes from my past, I hope the readers will enjoy it as much as I did when I was putting it together,” said Tudur. "It’s the kind of book that people can pick up and flick through rather than read in detail - it's basically a scrapbook of life." As well as getting the inside info on his career, his family and his friends, Tudur talks about his passion for comedy, and how tough and unforgiving the British comedy circuit is: "Being part of the live comedy circuit is a long hard slog, I’ve realized that it takes a lot of hard work to climb up the comedy ladder.” In the book he talks of his rugby playing days for Llangoed and Caernarfon – “I wasn’t much a player to be honest, but I enjoyed the social side!” – and about travelling the world with his wife, Sharon. But this was also an opportunity for Tudur to go a little deeper, and in the book he speaks honestly about the things that are important to him – ignorance about Wales, losing his mother to Alzheimer's, and getting angry with the so-called Welsh language police. "Creating the book was a cathartic experience, but one of the things I promised to be was honest. It has been a process that has made me think a lot about my life and has been a very emotional journey," he said. Tudur’s next venture is the launch his own cafe and live entertainment venue called Ty Golchi which is based between Caernarfon and Bangor. "Looking back at my life has made me think about the future. I've always felt that Wales lacked decent comedy venues, so Sharon and I decided one day to open our own place. That's typical of us – jumping straight in without giving it a thought. One good thing that will come out of it, it will be easier for me to get a gig because I will own the stage!"

View full details