Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Ned y Morwr: Ned y Morwr
Cyfres Ned y Morwr: Ned y Morwr
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y teitl cyntaf mewn cyfres o 5 o lyfrau dysgu darllen hwyliog am Ned y Morwr a'i gi ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Bydd cardiau gweithgareddau a storïau i'r athro eu darllen yn cyd-fynd â'r gyfres.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The first title in a series of 5 learn to read books about Ned and his dog, for the Foundation Phase. There are a list of key words at the end of each book, and a set of activity cards and stories for the teacher to read will correspond with the stories.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784612184
- Gwales Code
- gwales.com.9781784612184
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Ned y Morwr: Ned y Morwr
- Awdur / Author
- Llewelyn, Haf
- Current Price ex VAT
- £2.99
- Current Price inc VAT
- £2.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-10-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Leblond, Valeriane
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 20 pages
- Size
- 210 × 146 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma’r cyntaf mewn cyfres o lyfrau ar gyfer plant sy’n dechrau darllen. Dyma ni’n cwrdd â phrif gymeriad y gyfres, Ned y Morwr. Dyn hoffus yr olwg yw Ned yn ei siwmper dyllog, welingtons melyn a’i het wlân oren. Mae Ned yn mynd i’r mor yn ei gwch a'i fryd ar bysgota. Mae’r daith yn dechrau yn rhwydd a’r môr yn ddigon llyfn fel bod Ned yn gallu gorffwys a mwynhau ei frechdanau. Ond yn sydyn mae’r tonnau’n codi, ac wrth i’r mor dyfu’n fwy garw mae hyd yn oed Ned, y morwr profiadol, yn dechrau teimlo’n sâl iawn. Mae yna dipyn o ailadrodd geiriau a brawddegau syml yn y llyfr, gyda geiriau newydd yn cael eu cyflwyno yn raddol, er mwyn helpu gyda’r darllen. Mae yna hefyd dabl yng nghefn y llyfr yn rhestru’r prif eiriau er mwyn annog plant i greu eu brawddegau eu hunain. Ond mae llawer o’r stori hefyd yn cael ei chyfleu yn y lluniau hyfryd. Does dim angen gallu darllen pob gair yn syth i ddeall beth sy’n digwydd. Rydyn ni’n gweld y cwch bach yn cael ei daflu yng nghanol y tonnau, i fyny ac i lawr, i fyny ac i lawr. Ac erbyn y diwedd mae wyneb hwyliog Ned yn wyrdd a sâl iawn yr olwg ... Druan o Ned y Morwr!
Share
