Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Ned y Morwr: Paid, Taid!
Cyfres Ned y Morwr: Paid, Taid!
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma'r pumed mewn cyfres o 5 o lyfrau dysgu darllen hwyliog am Ned y Morwr a'i gi ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae rhestr o eiriau allweddol ar ddiwedd pob llyfr a bydd cardiau gweithgareddau a storïau i'r athro eu darllen yn cyd-fynd â'r gyfres.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Here's the fifth in a series of 5 learn to read books about Ned and his dog, for the Foundation Phase. There are a list of key words at the end of each book, and a set of activity cards and stories for the teacher to read will correspond with the series.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781784612221
- Gwales Code
- gwales.com.9781784612221
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Ned y Morwr: Paid, Taid!
- Awdur / Author
- Llewelyn, Haf
- Current Price ex VAT
- £2.99
- Current Price inc VAT
- £2.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-10-29
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Leblond, Valeriane
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 20 pages
- Size
- 210 × 146 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Ar dudalen cynta’r llyfr rydyn ni’n cwrdd â chymeriad newydd i’r gyfres, sef Taid. Mae gan Taid yr un bochau cochion a'r un wên hawddgar ag sydd gan Ned y Morwr. Mae Taid eisiau ymuno â Ned a Moi Cnoi yn y cwch bach, ond prin bod yna ddigon o le i Ned a Moi, heb sôn am wasgu un arall i’r lle cyfyng! Ond mae Taid yn cael ei ffordd, ac mae wrth ei fodd ar y môr. Mae e mor hapus nes ei fod yn mynnu sefyll ger ymyl y cwch, gan chwifio ei freichiau, a chwerthin yn braf. Ac mae’r anorfod yn digwydd. Mae’r cwch bach yn dechrau siglo a siglo - mae Moi a Ned yn edrych yn fwyfwy pryderus ac yn sydyn mae Taid yn y dŵr. Tro Ned a Moi yw hi i chwerthin nawr wrth weld wyneb syn Taid yng nghanol y tonnau! Mae’r un teimlad o hwyl yma ag sydd yn ngweddill y gyfres. Er mai ychydig eiriau sydd yn y llyfr mewn gwirionedd mae’r cyfuniad o eiriau a lluniau yn cyfleu llawer iawn, ac mae yna fwynhad amlwg mewn geiriau ac odlau sy’n sicr o apelio.
Share
