Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Parc y Bore Bach: Bin Bwn a Ben y Ci Tri Phen

Cyfres Parc y Bore Bach: Bin Bwn a Ben y Ci Tri Phen

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma'r drydedd stori o fyd hud a lledrith Parc y Bore Bach, a'r tro hwn cawn gyfarfod y Ci Tri Phen o'r enw Bin Bwn a Ben sy'n dysgu nad oes angen anghytuno drwy'r amser!

Disgrifiad Saesneg / English Description

This is the third story in the magical world of Parc y Bore Bach. This time we meet the Three-headed Dog Bin Bwn a Ben who learn that they don't always need to disagree!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848516557
Gwales Code
gwales.com.9781848516557
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Parc y Bore Bach: Bin Bwn a Ben y Ci Tri Phen
Awdur / Author
Jones, Caryl Parry; Phillips, Christian
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-11-04
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Atebol
Darlunydd / Illustrator
Lodge, Ali
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
220 × 220 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Fflachiadau byrlymus o liwiau, cymeriadau od tu hwnt a straeon sydd ar yr un pryd yn ddifyr a direidus – dyma lyfr hwn fydd yn sicr o ddiddanu unrhyw blentyn bach. Wedi'r cyfan, wrth geisio datrys pob penbleth neu bicil, mae dau ben wastad yn well nag un. Ond beth petai gennych chi dri phen? Beth sy’n digwydd wedyn? Dyna’n union yw helbul cymeriad diweddaraf Parc y Bore Bach. Croeso unwaith eto i’r byd boncyrs hwn! Ie, byd boncyrs Bin Bwn a Ben, y Ci Tri Phen. Tydi cael tri phen yn ddim ond strach i’r ci bach hwn sydd yn methu’n lân â gwneud penderfyniadau na chytuno ar beth mae’n ei hoffi orau. Mae un pen yn hoffi bisgedi cŵn, un arall yn un am dost a dim yn well gan y llall nag wy wedi'i ferwi! Dychmygwch y drafferth! Wrth iddo gyrraedd pen ei denyn, mae Bin Bwn a Ben yn meddwl y byddai picnic yn syniad da, ond hyd yn oed wedyn rhaid i'r trip phen gytuno ar beth i’w roi yn y fasged! Does dim byd yn hawdd, a tydi tri phen ddim i'w weld yn well nag un! Mae’r llyfr hwn yn un bendigedig ac mae’r lluniau yn ogystal â’r geiriau yn mynd i ddenu pob dychymyg ifanc, ond y cwestiwn mawr yw pa ben fydd yn licio tipyn bach o rwbio bol ac ysgwyd cynffon? Mae pob ci wrth ei fodd gyda hynny, debyg iawn?

View full details