Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Pen Dafad: Jac

Cyfres Pen Dafad: Jac

Regular price £6.99 GBP
Regular price Sale price £6.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Dyma'r nofel olaf yng Nghyfres Pen Dafad ar gyfer darllenwyr 11-15 oed. Mae Jac yn darganfod corff marw yn y twyni tywod ac yn benderfynol o fynd at wraidd y llofruddiaeth trwy helpu Jim, y ditectif. Nofel llawn antur, hiwmor ac erchylldra!

Disgrifiad Saesneg / English Description

This is the last novel in the Pen Dafad series, aimed at 11-15 year-olds. Jac finds a dead body in the sand dunes and decides to help Jim, the detective, to solve the crime. Full of adventure, humour and ghastly discoveries!

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847718976
Gwales Code
gwales.com.9781847718976
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Pen Dafad: Jac
Awdur / Author
Dafydd, Guto
Current Price ex VAT
£6.99
Current Price inc VAT
£6.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2018-10-08
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
144 pages
Size
184 × 122 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Wrth fynd ar daith gerdded gyda’r ysgol mae Jac yn darganfod corff. Fe gafodd Llywelyn Davies ei lofruddio, ond yn hytrach na dychryn mae Jac yn penderfynu datrys y dirgelwch. Ac mae e’n gwneud job mor dda ohoni nes achub y blaen ar yr heddlu ym mhob cam o’r ymchwiliad. Drwy gydol y nofel mae yna rywbeth ychydig yn wahanol am Jac. Mae’n well ganddo ei gwmni ei hun, ac mae ganddo’r gallu i ganolbwyntio’n llwyr ar rywbeth gan anwybyddu pawb a phopeth arall. Ond yr elfen benderfynol, styfnig yma yw un o’r pethau sy’n hoffus amdano hefyd, ac mae arddull chwim y llyfr yn adlewyrchu ei ffordd o feddwl wrth i ni ei ddilyn drwy pob cam o’i ymchwiliad. I mi, doedd pob digwyddiad yn y nofel ddim yn gwbl gredadwy. Mae Jac, er ei oedran, yn llwyddo i ymuno â thrip y Clwb Golff i Iwerddon, mae’n trefnu profiad gwaith gyda’r heddlu, ac yn llwyddo i sleifio i’r stafell lle mae’r ffeiliau am gyn-achosion yn cael eu cadw. Ond mae personoliaeth Jac yn cario’r dydd. Pwy arall fyddai’n meiddio bygwth heddwas er mwyn cael gwybod mwy am yr achos? Jac sydd, yn y pen draw, yn darganfod llofrudd Llywelyn Davies, ond gan wneud hynny mewn diweddglo cwbl annisgwyl ac ysgytwol sy’n troi ei fywyd wyneb i waered.

View full details