Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo
Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyddiadur chwerw-felys bachgen yn ei arddegau sydd ag anawsterau dysgu (oherwydd ei fod yn dioddef o dyslecsia), yn gocyn hitio i bawb ac sy'n cofnodi ei rwystredigaethau cyn canfod bodlonrwydd yn y clwb drama; i ddarllenwyr 12-15 oed. Cyhoeddwyd gyntaf ym mis Awst 2003. (ACCAC)
Disgrifiad Saesneg / English Description
The bitter-sweet diary of a teenage boy with learning difficulties (dyslexia) who is everyone's butt of mockery and who records his frustrations before finding satisfaction in the drama club; for readers aged 12-15 years. First published in August 2003. (ACCAC)
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9780862436933
- Gwales Code
- gwales.com.9780862436933
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Pen Dafad: Mewn Limbo
- Awdur / Author
- Glyn, Gwyneth
- Current Price ex VAT
- £2.95
- Current Price inc VAT
- £2.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-12-10
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Editor
- Jones, Alun; Royles, Nia
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 80 pages
- Size
- 1 × 1 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
- DEWEY code
- National Library of Wales Dewey Code
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae gen i asgwrn i'w grafu gyda Gwyneth Glyn. Mae hi'n gwneud gwaith adolygydd yn anodd iawn. Ydw, dw i'n gallu ffeindio digon i'w ganmol am ei nofel, Mewn Limbo , i bobl ifanc. Ond does yna ddim i'w feirniadu. Ac mae hynny'n rhan o waith adolygydd, on'd yw e? Mae'r nofel ar ffurf dyddiadur ac yn agor cil y drws ar fywyd Matthew Parry, disgybl ysgol yn nosbarth 9N. Ond dydy Matthew ddim eisiau ysgrifennu dyddiadur. Dydy e ddim yn hoffi ysgrifennu a dydy e ddim yn hoffi'r ysgol rhyw lawer chwaith. Mae e'n cael ei orfodi i sgrifennu gan ei Seicolegydd Addysg fel rhan o'i therapi, a hynny ar ôl rhoi llyfr ar dân yn y wers Gymraeg. Mae yna reswm arall pam nad yw e'n hoffi sgrifennu. Mae Matthew'n dyslecsig. Problemau ymddygiad, dyslecsia, teulu un rhiant, hiliaeth dyma rai o'r materion sy'n codi yn y nofel. Ac, eto, un o'i chryfderau yw nad yw'r awdures yn gwneud môr a mynydd o'r pethau yma. Maen nhw'n rhan naturiol o lif y stori, yn agweddau ar gymeriad Matthew, ond nid y cyfan. Yn y bôn mae'n stori am fachgen yn aeddfedu ac yn dysgu parch a goddefgarwch at bobl eraill. Ac oherwydd gafael Gwyneth Glyn ar yr arddull storïol dydy hi ddim yn stori nawddoglyd o fath yn y byd. Camp arall yw'r arddull sy'n llwyddo i fod yn anffurfiol dafodieithol ogleddol ac eto'n ddarllenadwy iawn hyd yn oed i Hwntw fel fi. Mae yna dipyn bach o Saesneg ac ambell reg digon i wneud i'r cyfan swnio fel petai e'n dod o geg disgybl 9N ond heb ymddangos yn stroclyd. Mae'r iaith fywiog yn sboncio oddi ar y ddalen. Ac mae'n llawn o chwarae clyfar ar eiriau nad ywn tynnu sylw ato'i hun. Os y'ch chi'n athro, rhowch y llyfr yma i'ch disgyblion. Os y'ch chi'n ddisgybl, rhowch e i'ch ffrind. Ac os y'ch chi'n rhiant, rhowch e i'ch plentyn. Mae Mewn Limbo yn chwip o lyfr da sy'n siŵr o blesio darllenwyr brwd a darllenwyr anfoddog fel Matthew. Ac fel y byddai Matthew ei hun yn ei ddweud Nice one. Job done!
Share
