Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Pen Dafad: Pen Dafad

Cyfres Pen Dafad: Pen Dafad

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel fer fywiog a doniol sy'n sôn am anturiaethau bachgen sy'n trawsnewid i fod yn ddafad bob nos. Gan awdures Llinyn Trôns . Adargraffiad; cyhoeddwyd gyntaf yn 2005.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A short, lively and funny novel about a boy who feels he is changing into a sheep every night. By the author of Llinyn Trôns . Reprint; first published in 2005.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780862438067
Gwales Code
gwales.com.9780862438067
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Pen Dafad: Pen Dafad
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2020-01-09
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
104 pages
Size
183 × 123 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Dyma atgof o Teen Wolf , i’r sawl ohonom sy’n cofio, ar ei newydd wedd ac wedi’i adleoli yng nghefn gwlad Cymru! Druan â Dewi – yn hytrach na throi'n flaidd, a fyddai’n eithaf cŵl, mae’n troi’n ddafad bob nos. Mae’r sefyllfa hynod ryfedd yma yn dir ffrwythlon i’r awdur i arfer ei chrefft o adrodd stori ddigri yn ei ffordd ddihafal ei hun gyda’n harwr 13 oed yn treulio’r noson gyntaf yn bwyta planhigion tŷ ei fam ac yn deffro ar yr ail fore yn noethlymun yng nghanol cae! Wrth i Lowri, ei chwaer fach holl wybodus, ddarganfod ei gyfrinach, gwelir eu perthynas yn aeddfedu, wrth iddi geisio’i helpu i ddatrys y dirgelwch a dod o hyd i ffordd o atal y gweddnewid. Yn gyferbyniad i’r hiwmor, datblygir y stori trwy rai golygfeydd dramatig ac arswydus gyda thro annisgwyl a chyffrous yn y plot a chyffyrddiad o hud a rhamant tua’r diwedd. Adroddir y cyfan trwy gyfrwng arddull lafar, naturiol a rhugl. Mae rhywbeth at ddant pawb yma – rhieni sy’n darllen i’w plant, yn ogystal â darllenwyr ifanc brwd ac anfoddog fydd yn medru uniaethu â chefndir a chyd-destun teuluol ac amaethyddol y nofel hon.

View full details