Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Pen Dafad: Wel, Gymru Fach
Cyfres Pen Dafad: Wel, Gymru Fach
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel yn sôn am wrthdaro sy'n digwydd yng Nghymru heddiw - rhwng y de a'r gogledd, rhwng Saeson a Chymry - ond hefyd yn dangos sut y mae'r cymeriadau'n datrys y gwahaniaethau hyn ac yn cydweithio pan fo angen.
Disgrifiad Saesneg / English Description
A novel which touches on present day conflicts in Wales - between north and south and between the English and the Welsh - but which shows how the characters gan settle their differences and pull together when the need arises.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847713483
- Gwales Code
- gwales.com.9781847713483
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Pen Dafad: Wel, Gymru Fach
- Awdur / Author
- Roberts, Lleucu
- Current Price ex VAT
- £3.95
- Current Price inc VAT
- £3.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-05-24
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 128 pages
- Size
- 123 × 185 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Cyfres Pen Dafad o wasg y Lolfa, cyfres sydd wedi ei hanelu at blant yn eu harddegau cynnar, yn mynd o nerth i nerth. Wel, Gymru Fach gan Lleucu Roberts yw’r gyfrol ddiweddaraf i gael ei chyhoeddi ac roeddwn i’n sicr yn edrych ymlaen yn eiddgar at gael ei darllen gan fod Lleucu bellach yn awdures brofiadol iawn ac yn gyn-enillydd Gwobr Tir na n-Og ar ddau achlysur. Mae’r stori wedi ei lleoli mewn pentref bach yng ngorllewin Cymru ac ar adegau mae hi bron fel dameg fodern. Mae rhai o’r sefyllfaoedd sy’n codi yn rhai y gallaf ddychmygu sydd wedi digwydd mewn sawl ardal o Gymru ac mae’r awdures yn cyfeirio at nifer o ddigwyddiad credadwy. Mae yma ymdriniaeth o berthynas y Cymry Cymraeg a’i gilydd, a'r r effaith y caiff Kyle a’i deulu o Saeson ar gymdeithas pentref bach Llan-hir, a sut aeth pawb ati i dynnu at ei gilydd yn y diwedd. Fe wnes i fwynhau nifer o elfennau yn y stori, gan gynnwys yr ymdriniaeth o’r tyndra ieithyddol a chymdeithasol sy’n codi yn sgil mewnfudo a sut mae hynny’n gallu newid y deinameg mewn ardal. Ceir defnydd o’r gair 'hiliaeth' hefyd, gair sy’n cael ei ddefnyddio’n rhy hawdd gan rai, mae’n amlwg. Hoffais y portread o Sam hefyd, yr unigolyn gwirioneddol weithgar sy’n ceisio ei orau i ddylanwadu ar bobl ifanc y fro mewn ffordd adeiladol a hynny drwy ddyrchafu gwerth y ‘pethe’ Cymreig. Rwy’n siŵr y bydd nifer o elfennau yn y stori’n taro tant gyda phlant ac oedolion - yn enwedig y defnydd o hiwmor sy’n nodweddu’r awdures, ac er i minnau fwynhau’r darllen ar sawl lefel, ni chefais fy argyhoeddi’n llwyr gan y stori y tro hwn. Mae yma bynciau sydd yn wirioneddol werth eu trafod ond ar adegau, yn enwedig erbyn y diwedd, roeddwn yn teimlo fod gormod o refru mam flin wrth ei phlant. Er gwaethaf ei hargyhoeddiad hi o werthoedd bywyd yng nghefn gwlad Cymru, mae’n siŵr fod y realiti’n dipyn mwy cymhleth na hynny i’r plant. Efallai nad y gyfres hon yw'r lle i wyntyllu a thrafod y materion hyn yn fanwl, felly gobeithio y daw’r awdures yn ôl at y testun a mynd o dan groen y themâu rywbryd eto yn y dyfodol.
Share
