Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Rwdlan: 14. Dan y Dail

Cyfres Rwdlan: 14. Dan y Dail

Regular price £2.95 GBP
Regular price Sale price £2.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mwy o anturiaethau'r Dewin Dwl, Rala Rwdins a Rwdlan mewn llyfr newydd am y Tŷ Pen Coeden yng nghyfres Rwdlan. Mae Rala Rwdins yn adeiladu tŷ coeden i'r Dewin Dwl gael chwarae ynddo. Mae'n cael amser cyffrous yng nghanol y coed a'r dail, ond mae'n dringo rhaff i mewn i dŷ rhywun arall. Camgymeriad dwl iawn! Adargraffiad. Cyhoeddwyd yn gyntaf yn 1985.

Disgrifiad Saesneg / English Description

More adventures in the Rwdlan series, in the company of Dewin Dwl, Rala Rwdins and Rwdlan. Rala Rwdins is building a tree house so that Dewin Dwl can play in it. Rala Rwdins is having a great time amidst the trees and the leaves, but she climbs the rope and enters someone else's house. A very silly mistake! Reprint. First published in 1985.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847711250
Gwales Code
gwales.com.9781847711250
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Rwdlan: 14. Dan y Dail
Awdur / Author
Tomos, Angharad
Current Price ex VAT
£2.95
Current Price inc VAT
£2.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2021-04-27
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
48 pages
Size
153 × 170 mm; depth 5 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Llyfr Rhif 14 yng Nghyfres Rwdlan – cyfres sydd wedi bod yn boblogaidd ers 1985. Yn y stori hon mae Rala Rwdins yn adeiladu tŷ pen coeden i’r Dewin Dwl, ac mae’n gwahodd y Llipryn Llwyd i gadw cwmni iddo. Ond mae’r dewin bach direidus yn dod o hyd i dy arall yng nghanol y coed a’r dail. Mae’n gwneud ei hun yn gartrefol yno, tan i’r perchennog ddod yn ôl! Mae 22 o luniau lliw llawn o’r cymeriadau adnabyddus yn y gyfrol. ************************************* Rwdlan yn ôl wedi wyth Mlynedd o Fwlch! Mae'r Lolfa wedi rhyddhau Dan y Dail sef rhif 14 yng nghyfres Rwdlan. Er bod nifer o lyfrau wedi eu cyhoeddi i blant bach yng Nghyfres Darllen Mewn Dim dyma’r gyfrol gyntaf i gael ei chyhoeddi yng nghyfres Rwdlan ers Cosyn dros wyth mlynedd yn ôl. Mae dros chwarter canrif ers i gymeriadau Gwlad y Rwla weld golau ddydd am y tro cyntaf yng nghyfrol gyntaf y gyfres Rala Rwdins. Dywedodd Angharad Tomos, sy’n fam erbyn hyn, bod Hedydd ei mab pump oed wrth ei bodd â storiâu Rwdlan. “Profiad rhyfedd iawn oedd gweld fy mhlentyn fy hun yn edrych ar y llyfrau. Mae’n dda gen i ddweud ei fod wrth ei fodd efo nhw! Ond, wedi gweithio ar ysgrifennu am y cymeriadau drwy’r dydd, y peth olaf rydw i eisiau ei wneud yw darllen stori Rwdlan cyn iddo fynd i gysgu! Rhaid cofio i mi sgwennu’r storiau cynharaf cyn i unrhyw un yn y teulu gael plant bach, a’r rhyfeddod yw bod plant yn hoffi’r un pethau. Mae wastad yn fy synnu mor alluog yw plant am sugno iaith a gwerthfawrogi jôc.” Cyfres Rwdlan yw un o’r cyfresi mwyaf poblogaidd i blant yn Gymraeg erioed gydag ymhell dros 100,000 o lyfrau wedi eu gwerthu. Dywedodd Meinir Edwards, golygydd Y Lolfa, “Mae’r llyfrau a’r cymeriadau yn mynd o nerth i nerth gyda chenhedlaeth newydd yn mopio arnynt. Dyw cymeriadau cyfres Rwdlan byth yn dyddio, maen nhw’r un mor ffres a byw ag erioed...” Erbyn diwedd 2009 bydd llawer o lyfrau ac adnoddau newydd wedi eu seilio ar gymeriadau Rwdlan yn cael eu cyhoeddi fel rhan o gyfres Darllen Mewn Dim. Mae bwriad hefyd i gyhoeddi Sioe Gerdd Nadolig wedi ei seilio ar gymeriadau’r gyfres.” Sut Mae Gwneud Llyfr http://www.youtube.com/watch?v=fATurzEoanQ

View full details