Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Strach: Yr Allwedd Aur
Cyfres Strach: Yr Allwedd Aur
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Y flwyddyn yw 2050. Mae Cymru mewn trafferthion. Mae'r bae yn boddi; y Senedd yn suddo a'r chwareli'n cael eu defnyddio fel ffatrïoedd i chwalu cof y Cymry. Mae Ynys Môn wedi hen ddiflannu oddi ar y map. De Orllewin Prydain yw'r enw ar Gymru bellach. Mae ffyrdd uwchddaearol yn cael eu hadeiladu ym mhobman fel bod pobl yn gallu osgoi Cymru yn llwyr.
Disgrifiad Saesneg / English Description
The year is 2050. Wales is in trouble. The Bay is drowning; the Senedd is sinking and the quarries are being used to eradicate the memories of the people of Wales. Anglesey has long disappeared from the map. Wales's new name is South West Britain. Overground highways are being built everywhere so that Wales can be completely by-passed.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848512863
- Gwales Code
- gwales.com.9781848512863
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Strach: Yr Allwedd Aur
- Awdur / Author
- Haf, Eurgain
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2010-10-07
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Atebol
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 136 pages
- Size
- 130 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru); Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 3 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales); For National Curriculum Key Stage 3 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Cafodd Eurgain Haf ei geni a’i magu ym Mhenisarwaun yn Arfon ac wedi mynychu Ysgol Uwchradd Brynrefail, Llanrug aeth ymlaen i Brifysgol Cymru Aberystwyth i astudio Cymraeg a Drama cyn dilyn cwrs ymchwil MPhil ar y pwnc ‘Addasu’r Nofel ar gyfer y Sgrîn’. Mae’n gweithio yng Nghaerdydd fel Swyddog y Wasg i S4C. Cyhoeddodd sawl nofel i blant am y cymeriad Siencyn (Dref Wen) a dyma ei nofel gyntaf i Wasg Gomer.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dim ond un dyn all helpu bellach; Y Brenin Arthur sy’n aros am yr alwad i achub ei wlad. Ond sut mae dod o hyd iddo a phwy sy’n ddigon dewr i ymgymryd â’r dasg? Mae Llwyd Dafydd yn byw gyda’i ewythr a’r pryfed lludw yn nhyddyn Porth Afallon. Dan orchymyn Jac Offa, Prif Weinidog newydd Prydain mae swyddogion y llywodraeth eisiau chwalu’r tyddyn er mwyn adeiladu ffordd uwchddaearol dros dir y fferm i hwyluso’r daith i Brifddinas Prydain. Ond pam fod Ewythr Bedwyr mor benderfynol nad yw am werthu a beth fydd pris ei ystyfnigrwydd? Dilynwch daith Llwyd a’i ffrind annisgwyl Arddun Gwen ar eu ffordd i Afallon i chwilio am y Brenin Arthur yn eu cwest i achub Cymru. Mewn byd lle nad yw popeth yn ymddangos fel y dylent daw Llwyd ar draws cymeriadau rhyfedd iawn fel Brenhines Yr Wyddfa, Rhitw Bitw, y Cnocwyr piwis y Min-mini-miaid mesmeraidd a’r Torgoch hynafol. Cymru 2050 – gwlad mewn trafferthion! Mae Bae Caerdydd yn boddi, y Senedd yn suddo a’r chwareli yn cael eu defnyddio fel ffatrïoedd. De Orllewin Prydain yw’r enw ar Gymru gydag Ynys Môn wedi hen ddiflannu oddi ar y map. Dyma Gymru 2050 fel y gwelir hi yn Yr Allwedd Aur , nofel newydd gan Eurgain Haf a gyhoeddir gan wasg Gomer. Mae’r llyfr yn perthyn i gyfres newydd sbon, Cyfres Strach, at ddant plant 9-13 oed, Nofel ffantasi ydyw yn llawn hud a chwedloniaeth am Llwyd Cadwaladr, bachgen tawel a mewnblyg 13 oed, a’i hynt wrth chwilio am yr allwedd aur i achub dyfodol Cymru. Daw Eurgain Haf o Benisarwaun, Gwynedd yn wreiddiol, felly nid yw’n syndod bod hud a lledrith yn ei gwaed. Meddai “Mae’r nofel hon wedi ei hysbrydoli gan fy mhlentyndod a’m magwraeth yn Eryri, ardal sy’n frith o chwedlau a choelion am dylwyth teg, corachod, cewri, twneli tanddaearol a chysylltiadau Arthuraidd....Fel plentyn treuliais sawl awr yn chwilio’n ddyfal gyda’m ffrindiau am dwneli tanddaearol ac olion y tylwyth teg, ac er na ddois i fyth o hyd iddyn nhw, y gobaith yw i mi danio fy nychymyg ar hyd y daith.” Mae hi wrth ei bodd yn darllen llyfrau ffantasi fel cyfresi Harry Potter a The Lord of the Rings ac mae’n siŵr bod dylanwad y llyfrau hyn ar ei gwaith. Beth am stori Yr Allwedd Aur ? Yn 2050 mae pwerau tywyll Gedon Ddu wedi dychwelyd i’r tir ac mae’n benderfynol o ddinistrio Cymru, y Meidrolfyd a’r Hudfyd drwy help ei weision ffyddlon. Dim ond un dyn all helpu bellach. A’r Brenin Arthur yw hwnnw sy’n aros am yr alwad i achub ei wlad. Ond sut mae dod o hyd iddo? A phwy sy’n ddigon dewr i ymgymryd â’r dasg? Mae Llwyd Cadwaladr yn byw gyda’i Ewythr Bedwyr a’r pryfed lludw yn nhyddyn Porth Afallon. Dan orchymyn y Prif Weinidog Jac Offa, mae swyddogion y llywodraeth am chwalu’r tyddyn er mwyn adeiladu ffordd uwchddaearol i bobl allu osgoi Cymru yn eu ceir trydanol. Ond pam fod Ewythr Bedwyr mor benderfynol o’u hatal. A beth fydd pris ei ystyfnigrwydd? Yn Yr Allwedd Aur dilynwn Llwyd a’i ffrind annisgwyl Arddun Gwen i Ynys Afallon i chwilio am y Brenin Arthur a’r allwedd aur i achub Cymru. Ar eu taith fe ddônt ar draws cymeriadau rhyfedd iawn fel Heti Hylldrem, cogyddes Cegin Arthur ac Wdull, y pryfddyn swil. Dônt wyneb yn wyneb â Brenhines yr Wyddfa chwim ei thafod sy’n barod iawn i ddweud ei barn. A tybed beth fydd cyfraniad Rhitw Bitw, y Cnocwyr a’r Torgoch hynafol i’r stori? Mae Yr Allwedd Aur yn annog y darllenydd i fentro ar daith arbennig iawn. Taith lle nad yw popeth yn ymddangos fel y dylai. Taith rhwng dau fyd, y Meidrolfyd a’r Hudolfyd. Yn ei byd bob dydd, gweithia Eurgain gydag elusen Achub y Plant ac mae hi wedi ymgartrefu ym Mhontypridd.
Share
