Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Swigod: Ar Binnau
Cyfres Swigod: Ar Binnau
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyw Mona ddim fel cŵn eraill. Mae ganddi gyfrinach nad oes modd iddi ei rannu gyda neb. A fydd modd i Gwenno, ei ffrind gorau yn y y byd, ei helpu? Stori drawiadol am berthynas hoffus merch fach a chi.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Mona is not like other dogs. She has a secret which she cannot share with anyone. Will her best friend Gwenno be able to help her overcome her biggest fear? A striking novel about an endearing relationship between a little girl and a dog.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848513846
- Gwales Code
- gwales.com.9781848513846
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Swigod: Ar Binnau
- Awdur / Author
- Siôn, Mari
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-05-12
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Flook, Helen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 120 pages
- Size
- 148 × 210 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Treuliodd Mari ei phlentyndod yn Nyffryn Ceiriog a’i llencyndod yn ninas Bangor. Wedi graddio mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol a Gwleidyddiaeth y Trydydd Byd ym Mhrifysgol Aberystwyth, aeth ymlaen i dderbyn gradd meistr mewn Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru. Wedi cyfnod yng Nghaerdydd yn gweithio i Blaid Cymru ac RNID Cymru, dychwelodd i Geredigion. Mae bellach wedi ymgartrefu yn Aberystwyth ble mae’n gweithio i Sefydliad Mercator ar gyfer Cyfryngau, Ieithoedd a Diwylliant. Yn 2004, enillodd Fedal Lenyddol Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd Ynys Môn am ei chasgliad o gerddi, ‘Dilyffethair.’ Ers hynny mae ei cherddi wedi eu cyhoeddi yn Tu Chwith, Golwg a Poetry Wales. Yn 2010 sefydlodd y blog be di gender yn Gymraeg? a’i nod o greu gofod i fenywod drafod pob agwedd o’u bywydau a hynny mewn cyd-destun ffeministaidd.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dewch i ddilyn hynt a helynt Mona’ r ci, wrth iddi ymgartrefu gyda Thaid ym mhentref Glyn Peblig a dod yn ffrindiau gyda Gwenno, ei wyres sy’n byw drws nesa. Gyda chymorth Gwenno mae’r ci arbennig yma yn dysgu sut i ‘ishte, yn cael cyfle i fwynhau chwarae pêl yn y parc, heb son am fynd am dro ar hyd a lled y pentref. Ond mae gan Mona gyfrinach fawr. Mae ar binnau o hyd a hynny am ei bod hi ofn bron i bopeth! O’r tywyllwch a’i gysgodion i gath Mr Criddle, Martha. Mae’r rhestr yn ddi ben draw! Pan ddaw Euros cefnder Gwenno ar ei wyliau i Lyn Peblig dros hanner tymor yr Hydref mae’r ddau’n benderfynol o gynorthwyo Mona i ddod dros ei hofnau. Ond a fydd modd i’r ddau ei helpu?
Share
