Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Swigod: Bwystfil Bryn Bugail
Cyfres Swigod: Bwystfil Bryn Bugail
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Warden ym Mharc Cenedlaethol Bryn Bugail yw tad-cu Owain ac yno yn ystod y gwyliau lleolir yr helyntion - dwyn pysgod ac anifeiliaid, pwma mawr du yn troedio'r mynyddoedd a lladron cefn gwlad yn cael eu dal.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Owain's Grandad is a warden in Bryn Bugail National Park in which the tales are set during the holidays - stealing fish and animals, a big black puma trudging across the mountains and countryside thiefs are caught.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848514003
- Gwales Code
- gwales.com.9781848514003
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Swigod: Bwystfil Bryn Bugail
- Awdur / Author
- Sion, Meilyr
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-05-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 64 pages
- Size
- 129 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Dyma stori a afaelodd yn nychymyg bechgyn ein tŷ ni o'r eiliad gyntaf, a hwythau'n ddarllenwyr brwd 8 a 10 oed. Mae cath fawr yn lladd anifeiliad ym Mryn Bugail. Dyna'r sôn o leia', ond daw hi i'r amlwg mai'r ffermwr Edwin sydd wedi cynllwynio'r cyfan er mwyn dwyn creaduriaid yr ardal. Wrth gwrs, mae yna dro yng nghynffon y stori ar y diwedd a achosodd dipyn o syndod a rhyfeddod i'r bechgyn. Ceir yma stori afaelgar i blant oedran cynradd, ynghyd ag ymdrech hefyd i wau straeon a phryderon bywyd bod dydd sy'n effeithio ar nifer fawr o ddarllenwyr ifainc, megis chwalfa perthynas eu rhieni. Mae cyfeiriad at hynny yn lled gyson yn y stori, ac yn bersonol, mi fyddwn i wedi dymuno diweddglo i'r stori honno gan ddarganfod beth yn union ddigwyddodd i rieni Owain. Ceir disgrifiadau manwl yn y nofel o fywyd cefn gwlad, o'r arferion pysgota i dafodiaith a dywediadau de Ceredigion, a braf yw darllen llyfr i blant gan awdur sydd â thafodiaith y gorllewin. Mae yna ddealltwriaeth yma o'r hyn sy'n apelio at ddarllenwyr ifainc, ac er bod disgrifiadau manwl o fywyd traddodiadol cefn gwlad yn britho'r stori, mae'r byd modern a gallu plant i ddefnyddio cyfarpar technolegol yn amlwg iawn yma. Dyma enghraifft o nofel sy'n pontio rhwng oes mam-gu a thad-cu ac oes yr wyrion, a hynny mewn modd cynnil a gonest. Mae Lleu a Caeo Pryce yn rhoi 9 allan o 10 i'r stori, a'u barn nhw sy'n cyfri, wedi'r cyfan! Un sylw bach – fe fydden nhw wedi dymuno cael lluniau lliw gan fod y lluniau'n mynd law yn llaw â chyffro'r stori.
Share
