Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Swigod: Gelert ar Goll
Cyfres Swigod: Gelert ar Goll
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Nofel ddifyr yn sôn am gi bach direidus sy'n mynd ar goll. Dilyniant i Gelert yn Galw . Mae Alun, Jac a Catrin wrth eu bodd yn gwylio'r cystadlu yn Sialens Ieuenctid y Byd yng Nghymru. Ond pwy sy'n ceisio bygwth y Sialens? Ac a oes cysylltiad rhwng diflaniad Gelert, pennaeth C4, sef Cŵn Cymru Cyfrinachol Cyf, a'r cynllwyn hwnnw?
Disgrifiad Saesneg / English Description
An entertaining novel about Gelert, a mischievous dog and member of C4, a detective agency that uses the skills of special dogs. While Alun, Jac and Catrin are enjoying themselves watching the World Youth Challenge competition which is being held in Wales, someone threatens the event, and they have to solve the mystery of whether the threat is connected to Gelert's disappearance.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848516526
- Gwales Code
- gwales.com.9781848516526
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Swigod: Gelert ar Goll
- Awdur / Author
- Davies, Helen Emanuel
- Current Price ex VAT
- £5.99
- Current Price inc VAT
- £5.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2021-05-27
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Flook, Helen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 196 pages
- Size
- 129 × 197 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Alun, Jac a Catrin wrth eu bodd yn gwylio’r cystadlu yn Sialens Ieuenctid y Byd yng Nghymru. Ond pwy sy’n ceisio bygwth y Sialens? Ac a oes cysylltiad rhwng diflaniad Gelert, pennaeth C4, sef Cŵn Cymru Cyfrinachol Cyf, a’r cynllwyn hwnnw? Rhaid galw am help Twm, Ffranco a gweddill asiantau C4, i ddatrys y dirgelwch. Ond a fyddan nhw’n gallu dod o hyd i Gelert cyn iddi fod yn rhy hwyr..? Dilyniant i Gelert yn Galw . Dyma nofel dditectif afaelgar a fydd yn sicr yn apelio at fechgyn a merched, ac yn cydio yn nychymyg y darllenydd. Ceir cyfuniad clyfar o hiwmor, chwaraeon a drwgweithredwyr. Bob yn ail bennod ceir y stori trwy lygaid Twm y ci wrth iddo gysylltu â’i bennaeth, Gelert, yn yr asiantaeth. O ganlyniad, mae’r stori’n llifo’n rhwydd ac yn cadw diddordeb y darllenydd ifanc wrth symud o safbwynt Twm i safbwynt Alun. Ceir cyfres o luniau du a gwyn ym mhob pennod gan yr arlunydd amryddawn, Helen Flook. Mae Helen Emanuel Davies yn feistres ar adrodd stori ac am adnabod ei chynulleidfa. Roedd Gelert yn Galw ar restr fer Gwobr Tir na n’Og, 2013.
Share
