Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Swigod: Sam, Y Capten a'r Siarc Od

Cyfres Swigod: Sam, Y Capten a'r Siarc Od

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Mae'n Ddiwrnod y Llyfr ac mae plant y dosbarth i gyd wedi eu gwisgo fel cymeriadau amrywiol o fyd llyfrau. Ar y ffordd adref o'r ysgol, mae un o'r plant yn cael ei gamgymryd am un o'r cymeriadau gan ddechrau ar antur fawr.

Disgrifiad Saesneg / English Description

It's World Book Day and all the children in the class have dressed up as various book characters. On the way home from school, one of the children is mistaken for one of the characters, sparking a great adventure.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848511187
Gwales Code
gwales.com.9781848511187
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Swigod: Sam, Y Capten a'r Siarc Od
Awdur / Author
Lewis, Sian
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-02-03
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Lolfa
Darlunydd / Illustrator
Meirion, Catrin
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
88 pages
Size
130 × 180 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Storïau i Blant 7-9 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 7-9 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 7 years; Oedran addas: o tua 7 blwydd oed

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Stori i’r plant iau, 7-9 oed, yw’r stori hon. Mae’r clawr yn lliwgar gyda chymeriadau anhygoel yn chwarae offerynnau cerddorol arno. Bydd y teitl, a’r addewid o stori am fôr-ladron, yn apelio at y plant, yn enwedig, efallai, at y bechgyn. Sam Hopcyn yw’r prif gymeriad ac mae’n ddisgybl Blwyddyn 3 yn Ysgol Llanllyfr. Mae’r ysgol yn mynd i ddathlu Diwrnod y Llyfr trwy gynnal cystadleuaeth ‘Gwisgo fel Cymeriad mewn Llyfr’ ac yn anfon llythyron adre gyda'r disgyblion er mwyn iddyn nhw gael caniatâd eu rhieni i gymryd rhan. Yr addewid yw y gall rhywbeth arswydus, cyffrous neu anturus ddigwydd ar y diwrnod! Pan wêl Sam y geiriau hyn, nid yw am gymryd rhan ac mae’n cuddio’r llythyr yng ngwaelod ei fag. Ond mae ei fam yn cael llungopi o'r llythyr gan ffrind iddi ac yn mynd ati i wnïo gwisg y môr-leidr Barti Ddu i'w mab. Mae Sam yn dal yn benderfynol nad yw am gymryd rhan ac yn mynd â’i wisg ysgol gydag e yn ei fag. Wrth iddo newid rhwng y sied a wal yr ysgol, mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd – mae môr-leidr go iawn yn ymddangos ac yn bygwth bwydo Sam i’r siarcod! Mae pethau'n mynd o ddrwg i waeth ac mae Sam yn profi’r union bethau nad oedd eisiau eu profi ar ddechrau'r llyfr! Stori i’w mwynhau yw hon, ac mae'n llawn o ddigwyddiadau cyffrous i sbarduno trafodaethau dychmygol a diddorol. Rosemary Thomas ***************************** Mae Siân Lewis yn hen law ar ysgrifennu llyfrau bywiog a diddorol ar gyfer plant oed cynradd, a gwelwn ei dawn ar ei gorau yn y llyfr hyfryd hwn ar gyfer plant iau Cyfnod Allweddol 2. Mae’n sicr y bydd y rhan fwyaf o blant yr oed hwn yn cael eu denu’n syth at y llyfr o weld y llun bendigedig ar y clawr ac o ddarllen y broliant sy’n addo stori lle mae pethau ‘sbwci, cyffrous neu anturus’ yn medru digwydd. Llyfr llawn hwyl a dychymyg a gawn yma, a stori antur tra gwahanol i’r arfer. Mae’r syniad o glymu’r stori â dathliadau Diwrnod y Llyfr Ysgol Llanllyfr yn un clyfar, a’r hyn a gawn yw hanes taith ddiddorol Sam Hopcyn, plentyn Blwyddyn 3, wrth iddo gwrdd â phob math o gymeriadau gwyllt a gwallgof ar long Capten Cranc y môr leidr milain. Mae’r ysgrifennu’n gynnil a chlyfar, a’r penodau byrion yn rhai y gall plant o’r oed yma ymdopi’n rhwydd â hwy. Mae’r iaith a ddefnyddir yn gwbl addas i’r oed targed. Defnyddir patrymau a chystrawennau gweddol syml, ac ailadroddir hwy’n gyson er mwyn hybu ymwybyddiaeth plant o Gymraeg cywir (Roedd e’n hoffi, Doedd e ddim yn hoffi, ac ati). Ceir defnydd o idiomau ac ymadroddion bendigedig gydol y gyfrol (cyn pen chwinc, dros ben llestri), yn ogystal â geirfa forwrol addas pan fo’r cymeriadau ar fwrdd y llong (canllaw, astell, angori), a defnydd o enwau pwyntiau’r cwmpawd - hyn oll yn cyfoethogi ac ymestyn iaith y darllenydd ifanc. Roeddwn i wrth fy modd â dewis yr awdur o enwau hefyd (Mrs Swyn Cadwaladr y brifathrawes, Ysgol Llanllyfr, a llong y Jac Do-re-mi, er enghraifft), yn ogystal â’r modd y llwydda i chwarae ar eiriau’n glyfar mewn sawl man yn y llyfr. Mae ei defnydd o hiwmor cynnil, tafod-yn-y-boch hefyd yn effeithiol dros ben, ac mae’r stori’n symud yn ei blaen yn gyflym gan gyfleu cyffro a gwallgofrwydd y digwyddiadau rhyfedd. Mae lluniau bendigedig yr arlunydd Catrin Meirion yn ychwanegu at ddoniolwch y stori ac yn dod â hynodrwydd y cymeriadau a’r plot yn fyw i’r darllenydd. Mae ‘Sam, y Capten a’r Siarc Od’ yn siŵr o gydio yn nychymyg plant ledled Cymru, ac, o safbwynt athrawes ysgol gynradd, byddai’n lyfr perffaith i’w fwynhau a’i werthfawrogi fel dosbarth cyfan. Cefais fwynhad pur o’i ddarllen, a gwnaeth i mi ddyheu am gael bod yn blentyn, mewn byd lle nad oes pen draw i’r dychymyg, unwaith yn rhagor!

View full details