Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres Wenfro: Cyfrinach y Crochan
Cyfres Wenfro: Cyfrinach y Crochan
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Rhan o gyfres hwyliog i'r cyfnod sylfaen am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol. Ymunwn â Mamgu-Iet-wen a'i ffrindiau wrth iddyn nhw helpu Rhoswen, yr hwch, i lenwi ei bin compost hud yn yr ardd.
Disgrifiad Saesneg / English Description
Part of an educational resource about recycling for the foundation phase. We join Mamgu-Iet-wen and her friends as they help Rhoswen the pig fill her special compost bin in the garden.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848518551
- Gwales Code
- gwales.com.9781848518551
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres Wenfro: Cyfrinach y Crochan
- Awdur / Author
- Mair, Llinos
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2015-12-02
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Atebol
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 32 pages
- Size
- 160 × 160 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Llinos Mair yn wyneb cyfarwydd yn y byd creadigol yng Nghymru. Fel dylunydd profiadol, yn byw a gweithio yng ngorllewin Cymru, mae'n hen gyfarwydd â chreu syniadau gweledol deniadol. Hi sydd y tu ôl i gwmni dillad a nwyddau Celtes, sydd wedi eu hysbrydoli gan gyfoeth geiriau a dywediadau Cymraeg. Mae ôl ei dychymyg drwy'r gyfres Wenfro; mae'n berson eithriadol o frwdfrydig dros yr agenda amgylcheddol, gwyrdd a thros roi cyfle i blant Cymru ddeall am eu gwlad o fewn cyd-destun y byd mawr. Ar gael i hyrwyddo a chynnig gweithdai.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Cynllun addysgol cynhwysfawr ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae Mamgu Iet-wen yn dipyn o gymeriad, ac mae ei hwyrion, Owen ac Olwen, yn cael anturiaethau diddorol iawn yn ei chwmni. Mae hi wrth ei bodd yn eu cyflwyno i draddodiadau Cymru a'i syniadau am sut i gadw'r byd yn wyrdd ac ailgylchu yn greadigol – fel y byddai pobol Cymru yn ei wneud yn naturiol slawer dydd. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg – ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi Bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud. Gan ddechrau gyda'r ddwy gyfrol gyntaf, 'Ar Gof a Chadw' a 'Yr Helfa Drysor', mae Wenfro yn mynd i dyfu’n gyfres o lyfrau ac adnoddau dysgu heb ei ail, yn becyn anhygoel o gyffrous i blant cynradd o 5 i 7 oed. Ei ffocws yw dysgu mewn ffyrdd hwyliog am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol – a hynny trwy gyfrwng llyfrau wedi eu dylunio'n fywiog gan yr awdur, Llinos Mair. Mae ei syniadau am bethau i’w gwneud i gadw'r byd yn wyrdd yn pefrio gyda gwreiddioldeb.
Share
