Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Wenfro: Parti Barti

Cyfres Wenfro: Parti Barti

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Rhan o gyfres hwyliog i ddisgyblion y Cyfnod Sylfaen am y byd gwyrdd ac am ailgylchu yn greadigol. Mae pawb yn paratoi i fynd i barti gwisg ffansi ar y traeth, ond siom sy'n eu haros pan welant fod olew wedi gollwng o long fawr gan niweidio bywyd glan môr.

Disgrifiad Saesneg / English Description

Part of a lively educational resource about recycling creatively for pupils in the Foundation Phase. Everyone is preparing to go to the fancy dress party on the beach, but they are disappointed when they see that oil has spilled from a tanker endangering life at the seaside.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848518575
Gwales Code
gwales.com.9781848518575
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Wenfro: Parti Barti
Awdur / Author
Mair, Llinos
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2016-01-18
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Atebol
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
160 × 160 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Deunydd Addysgol (yn Gymraeg) | EN: Educational Material (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Cymraeg - Meithrin a Chynradd (yn Gymraeg) | EN: Welsh - Nursery and Primary (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Llinos Mair yn wyneb cyfarwydd yn y byd creadigol yng Nghymru. Fel dylunydd profiadol, yn byw a gweithio yng ngorllewin Cymru, mae'n hen gyfarwydd â chreu syniadau gweledol deniadol. Hi sydd y tu ôl i gwmni dillad a nwyddau Celtes, sydd wedi eu hysbrydoli gan gyfoeth geiriau a dywediadau Cymraeg. Mae ôl ei dychymyg drwy'r gyfres Wenfro; mae'n berson eithriadol o frwdfrydig dros yr agenda amgylcheddol, gwyrdd a thros roi cyfle i blant Cymru ddeall am eu gwlad o fewn cyd-destun y byd mawr. Ar gael i hyrwyddo a chynnig gweithdai.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cynllun addysgol cynhwysfawr ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae Mamgu Iet-wen yn dipyn o gymeriad, ac mae ei hwyrion, Owen ac Olwen, yn cael anturiaethau diddorol iawn yn ei chwmni. Mae hi wrth ei bodd yn eu cyflwyno i draddodiadau Cymru a'i syniadau am sut i gadw'r byd yn wyrdd ac ailgylchu yn greadigol – fel y byddai pobol Cymru yn ei wneud yn naturiol slawer dydd. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg – ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi Bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud. Mae cyfres Wenfro yn cynnwys 6 teitl ac adnoddau dysgu heb eu hail. Dyma becyn anhygoel o gyffrous i blant cynradd o 5 i 7 oed. Ei ffocws yw dysgu mewn ffyrdd hwyliog am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol – a hynny trwy gyfrwng llyfrau wedi eu dylunio'n fywiog gan yr awdur, Llinos Mair. Mae ei syniadau am bethau i'w gwneud i gadw'r byd yn wyrdd yn pefrio gyda gwreiddioldeb.

View full details