Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres Wenfro: Yr Helfa Drysor

Cyfres Wenfro: Yr Helfa Drysor

Regular price £4.99 GBP
Regular price Sale price £4.99 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Stori yng nghyfres Wenfro. O, gwyn ein byd - a gwyrdd!, cynllun addysgol cynhwysfawr ar gyfer y Cyfnod Sylfaen. Mae'r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg - ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi-bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud.

Disgrifiad Saesneg / English Description

A title in the Wenfro series, an exciting new scheme for the foundation phase which encourages young readers to learn about green living in the company of Bwgi-bo and Goleuwen. In this story, Bwgi-bo is excited about going on a treasure hunt with Mamgu Iet-wen and her friends.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781848518520
Gwales Code
gwales.com.9781848518520
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres Wenfro: Yr Helfa Drysor
Awdur / Author
Mair, Llinos
Current Price ex VAT
£4.99
Current Price inc VAT
£4.99
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2015-02-23
Cyhoeddwr / Publisher
Gomer@Atebol
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
32 pages
Size
215 × 215 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant (Cerddi, Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Stories, Poems) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Llyfrau i Blant Dan 7 Oed (yn Gymraeg) | EN: Books for Children Under 7 (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 1 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 1 (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
For babies from birth; Ar gyfer babanod o'u geni

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Llinos Mair yn wyneb cyfarwydd yn y byd creadigol yng Nghymru. Fel dylunydd profiadol, yn byw a gweithio yng ngorllewin Cymru, mae’n hen gyfarwydd â chreu syniadau gweledol deniadol. Hi sydd y tu ôl i gwmni dillad a nwyddau Celtes, sydd wedi eu hysbrydoli gan gyfoeth geiriau a dywediadau Cymraeg. Mae ôl ei dychymyg drwy’r gyfres Wenfro; mae’n berson eithriadol o frwdfrydig dros yr agenda amgylcheddol, gwyrdd a thros roi cyfle i blant Cymru ddeall am eu gwlad o fewn cyd-destun y byd mawr. Ar gael i hyrwyddo a chynnig gweithdai.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Cynllun addysgol cynhwysfawr ar gyfer y Cyfnod Sylfaen Mae Mamgu Iet-wen yn dipyn o gymeriad, ac mae ei hwyrion, Owen ac Olwen, yn cael anturiaethau diddorol iawn yn ei chwmni. Mae hi wrth ei bodd yn eu cyflwyno i draddodiadau Cymru a’i syniadau am sut i gadw’r byd yn wyrdd ac ailgylchu yn greadigol – fel y byddai pobol Cymru yn ei wneud yn naturiol slawer dydd. Mae’r straeon yn ddifyr ac yn llawn dychymyg – ac yn berffaith ar gyfer y dyhead sydd nawr i fyw bywyd mwy gwyrdd. Ynddyn nhw, cawn gwrdd â phob math o gymeriadau annisgwyl, o Bwgi Bo, y bwgan brain, i Goleuwen, y chwyddwydr hud. Gan ddechrau gyda’r ddwy gyfrol gyntaf, ‘Ar Gof a Chadw’ a ‘Yr Helfa Drysor’, mae Wenfro yn mynd i dyfu’n gyfres o lyfrau ac adnoddau dysgu heb ei ail, yn becyn anhygoel o gyffrous i blant cynradd o 5 i 7 oed. Ei ffocws yw dysgu mewn ffyrdd hwyliog am y byd gwyrdd ac ailgylchu yn greadigol – a hynny trwy gyfrwng llyfrau wedi eu dylunio’n fywiog gan yr awdur, Llinos Mair. Mae ei syniadau am bethau i’w gwneud i gadw’r byd yn wyrdd yn pefrio gyda gwreiddioldeb.

View full details