Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Cewri: 10. Be Nesa! (Cyfrol 4)

Cyfres y Cewri: 10. Be Nesa! (Cyfrol 4)

Regular price £9.95 GBP
Regular price Sale price £9.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Pedwaredd cyfrol hunangofiant Dafydd Wigley, un o wleidyddion disgleiriaf Cymru. Ceir hanes bywyd a gyrfa Dafydd Wigley o 2002 hyd heddiw, ynghyd â'i obeithion am Gymru'r dyfodol, gyda mynegai cynhwysfawr i'r bedair cyfrol yn y gyfres hunangofiannol. 39 llun.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The fourth volume of the autobiography of Dafydd Wigley, one of Wales's most brilliant politicians. The text covers the years 2002 until the present day, and includes his hopes for Wales of the future, with a comprehensive index to the four volumes in the series. 39 photographs.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742920
Gwales Code
gwales.com.9780860742920
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Cewri: 10. Be Nesa! (Cyfrol 4)
Awdur / Author
Wigley, Dafydd
Current Price ex VAT
£9.95
Current Price inc VAT
£9.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2013-11-26
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
262 pages
Size
123 × 182 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Gwryw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Male (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Yn ôl Dafydd Wigley, neu’r Barwn Wigley o Gaernarfon, a defnyddio ei deitl cywir, dyma’r bedwaredd gyfrol a’r olaf yn ei gyfres hunangofiannol sy’n croniclo hanes ei fywyd a’i yrfa. Mae hi’n dilyn y drydedd gyfrol, Maen i’r Wal , a gyhoeddwyd yn 2001, ac yn y gyfrol olaf hon cawn hanes gyrfa Dafydd Wigley o 2002 hyd heddiw, gan ganolbwyntio ar ei hynt a'i helynt yn y Cynulliad, a’i dderbyniad i Dŷ’r Arglwyddi. Ar ôl dros chwarter canrif yn Aelod Seneddol, a phedair blynedd yn Aelod Cynulliad, penderfynodd Dafydd Wigley y byddai’n rhoi’r gorau i’w yrfa wleidyddol. Roedd hwn yn benderfyniad anodd iddo, ond mae’n nodi mai ei brif bryder ar y pryd oedd iechyd ei rieni. Ac yntau’n unig blentyn, mae’n esbonio bod hwn yn gyfle iddo aberthu ychydig dros ei rieni. Roedd eu hymateb, ar ôl iddo egluro iddynt ei benderfyniad, yn cadarnhau ei ddewis lwybr: ‘o weld eu hwynebau, gwyddwn fy mod wedi gwneud y penderfyniad cywir’. Er ei fod wedi troi cefn ar wleidyddiaeth lawn amser doedd dim amser i segura. Wrth ddilyn ei yrfa ôl-wleidyddol cawn fynd ar daith wib gydag ef o gwmpas sefydliadau Cymru, gan fod Dafydd Wigley wedi treulio llawer o amser yn llywio rhai o sefydliadau pwysicaf y wlad. O Awdurdod S4C i Brifysgol Cymru a’r Llyfrgell Genedlaethol, mae ei frwdfrydedd a’i egni yn fyrlymus wrth iddo ddisgrifio ei gyfrifoldebau ym mhob un o’r sefydliadau hyn ar ôl troi cefn ar y Cynulliad. Ond ymddengys nad yw’n hawdd cefnu’n gyfan gwbwl ar wleidyddiaeth. Ar ôl dianc o’i chrafangau roedd y byd gwleidyddol am gael Dafydd Wigley yn ôl i'r gorlan. Yn gyn-aelod o Dŷ’r Cyffredin a’r Cynulliad, roedd hi’n bryd iddo gael mynediad i drydydd sefydliad, un nad oedd aelodau Plaid Cymru wedi bod yn gefnogol iddo dros y degawdau – Tŷ’r Arglwyddi. Pam, felly, y dewisodd fod yn Arglwydd, a bod yn aelod o sefydliad mae’n ei ddisgrifio fel un ‘etifeddol’, ‘annemocrataidd’ a ‘Seisnig’? Y sbardun i Dafydd Wigley oedd Deddf Cymru 2006. Datgelwyd ynddi y câi’r Cynulliad bwerau ychwanegol, ond dim ond drwy gefnogaeth T’r Cyffredin a Thŷ’r Arglwyddi. Mae’n credu’n gryf yng ngwaith y sefydliad yn craffu ar ddeddfwriaeth, gan fynd mor bell â holi onid oes angen system adolygiadol debyg yma yng Nghymru? O’r Cynulliad i Dŷ’r Arglwyddi, mae’r gyfrol yn rhoi cip tu ôl i’r llenni inni ar waith y sefydliadau, ac yn rhoi cipolwg hefyd ar y cymeriadau sy’n chwarae rhan mor flaenllaw ynddynt. Ar ddiwedd y llyfr ceir mynegai llawn i’r pedair cyfrol, adnodd gwerthfawr i unrhyw ymchwilydd neu academydd fydd yn pori trwy hanes difyr un o wleidyddion blaenllaw y Gymru fodern.

View full details