Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Cewri: 34. Siân James

Cyfres y Cewri: 34. Siân James

Regular price £7.95 GBP
Regular price Sale price £7.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Hunangofiant hynod onest y ferch dalentog o Lanerfyl. Cawn ein swyno a'n sobri wrth ddarllen am ei chefndir a'i gyrfa. Ceir yma hanes trist Tad-cu a Nain Sowth a phoen y salwch hir a gafodd ei mam, yn ogystal â braw cusan gyntaf Siân James a dirgelwch y cylchoedd ŷd! Mae 'na lawer mwy i Siân na'i llais unigryw, ei gallu i ganu'r delyn a'i dawn actio.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The honest autobiography of talented Llanerfyl singer Siân James.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742722
Gwales Code
gwales.com.9780860742722
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Cewri: 34. Siân James
Awdur / Author
James, Siân
Current Price ex VAT
£7.95
Current Price inc VAT
£7.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-07-12
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
200 pages
Size
123 × 182 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Benyw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Female (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Mae gofyn i adolygydd fod yn ddiduedd a dydy hynny ddim yn beth hawdd o gwbl mewn gwlad fach fel Cymru. Mae pethau yn anos fyth os ydych chi wedi eich geni o fewn tafliad carreg i wrthych y llyfr y gofynnir i chi roi eich barn arno. Mae yna'r mymryn lleiaf o or-ddweud yn y 'tafliad carreg' hwnnw ond does yna ddim cymaint â hynny o bellter rhwng cartref Siân a'r tŷ lle cefais i fy magu, gyda'r naill yn Llanerfyl a'r llall yn y Foel. Aeth y ddau ohonom i'r un ysgol uwchradd (ond nid yn yr un cyfnod) a bu i ni gystadlu yn yr un eisteddfodau lleol (ond nid yn erbyn ein gilydd na gyda'r un raddfa o lwyddiant yn fy achos i!). Rwy'n credu mai'r unig le y bu i'n llwybrau groesi oedd yn Aelwyd Dyffryn Banw, a hynny am gyfnod byr iawn. A dweud y gwir, prin y bu i'n bywydau orgyffwrdd o gwbl. Felly mae'n bosib y cewch chi adolygiad cwbl gytbwys wedi'r cyfan. Dim ond un maen tramgwydd arall sy'n aros sef y posibilrwydd ein bod yn perthyn i'n gilydd. A'r gwir amdani yw bod brodorion yr ardal acw i gyd yn perthyn rhywsut neu'i gilydd! Ond mae adolygu gwaith rhywun yr ydych yn ei adnabod yn dda yn her. Y braw mwyaf a gefais i cyn dechrau ar y darllen oedd sylweddoli bod Siân James bellach yn ddigon hen i ysgrifennu ei hunangofiant a'i bod wedi cael y fath amrywiaeth o brofiadau i wneud y llyfr hwn yn un eithriadol o ddiddorol i'w ddarllen. Yn wir, mae'n un o'r goreuon yng Nghyfres y Cewri. Fe glywais rai yn cwyno nad oedd yr awdur wedi rhoi digon o sylw i'r selebs hynny y mae'n rhaid ei bod wedi dod ar eu traws yn ystod ei gyrfa – rhai o'r sêr hynny o fyd y cyfryngau sy'n enwog am fod yn enwog – a diolch byth am hynny. A beth bynnag, mae yna gyfeiriadau lu at bobl oedd yn bwysig ym mywyd Siân. Yn wir, mae ganddi ddawn ddisgrifio ddihafal, ac er mai byr yw ei phortreadu mae'n llwyddo i gyfleu llawer mewn ychydig eiriau dewisol. Down i adnabod pobl mor amrywiol a gwahanol i'w gilydd â Ffranses Môn Jones, Tich Gwilym, Rhys Mwyn ac Alan Stivell. Ond yr hyn sydd yn troi cofiant diddorol yn un trawiadol yw dawn Siân i ddisgrifio cymeriadau ei milltir sgwâr, ac yn arbennig aelodau o'i theulu ei hun. Disgrifir ei thad fel gŵr tawel a chadarn a'i mam fel gwraig gymhleth, ecsentrig, gyfeillgar a chariadus. Y portread hwn o Sister James gyda'i Chymraeg clapiog a'i sylwadau ysgubol yw gwir gamp y llyfr. Cafodd fagwraeth ddigon arnodd ond llwyddodd i oresgyn hynny ac fe wasanaethodd ei bro fel nyrs ardal effeithiol gan ddilyn ei merch o eisteddfod i eisteddfod wrth i honno ennill gwobrau fel llefarydd, cantores ac offerynwraig. Nid yw Siân yn sôn llawer am ddawnsio, ond fe'i cofiaf yn gwneud hynny hefyd! Mae gan yr awdur y ddawn i gydymdeimlo'n ddwfn â phobl, ac nid yn unig y rhai hynny sydd yn perthyn neu yn agos ati. Yn ystod y flwyddyn a dreuliodd yn America mae'n sylwi ar yr annhegwch a ddioddefir gan y bobl dduon a'r tlodion, ac mae sefyllfa druenus y merched yn y carchar y bu hi'n ymweld ag ef yn ei chyffwrdd i'r byw. Ni ellir peidio â sylwi ar ei hymwneud â'r arallfydol a'r ysbrydol. Mae'n cael breuddwydion am ei nain a'i mam wedi iddynt farw ac mae ei phrofiadau yn Dordogne gyda Marie Perret yn iasol ddiddorol. Tra ei bod hi dan ofal y wraig hon cafodd 'freuddwydion' oedd yn awgrymu iddi fod ar y ddaear hon ddwywaith o'r blaen – yn Llydawes fethedig ac yn un o'r Indiaid Cochion oedd yn galaru ar ôl colli ei hunig blentyn. Efallai fod cysylltiad agos rhwng yr elfen ysbrydol a cheisio dod i delerau â salwch creulon ei mam. Mae yna ddimensiwn gwleidyddol yn perthyn i Siân hefyd. Diddorol yw'r cyfweliad rhyfedd hwnnw a gafodd yng Nghaer-grawnt am arwyddion dwyieithog neu'r helyntion yng Ngholeg Bangor mewn brwydrau ieithyddol pan oedd yn fyfyriwr yno. Hefyd, fel y dywedais eisoes, mae ei hymweliad â Fflorida yn dangos bod ganddi gydwybod gymdeithasol eithriadol o fyw. Trwy'r gyfrol i gyd mae Siân yn gynnes werthfawrogol o bawb fu'n ei helpu neu yn cydweithio â hi yn ystod ei gyrfa ac fe'n diddenir â llawer o'r troeon trwstan ddaw i'w rhan. Er bod afiechyd ei mam yn bwrw ei gysgod yn drwm dros ail hanner y cofiant mae'n dal yn obeithiol at y diwedd, ac er i'r awdur ennill clodydd di-rif ar lwyfannau tros y byd ni ellir peidio â theimlo mai merch ei milltir sgwâr yw Siân o hyd ac mai o'r lle hwnnw y daw ei nerth a'i hysbrydoliaeth. Fe ddylid yn bendant recordio Siân ei hun yn darllen y llyfr hwn gan y byddai yn fodd o dynnu sylw at dafodiaith hyfryd sir Drefaldwyn y mae enghreifftiau cyfoethog ohoni yn britho'r llyfr. Bydded i bawb ddarllen y gyfrol hon sy'n adrodd hynt a helynt deugain mlynedd cyntaf bywyd y gwrthrych. Mae'r crynodeb yn y bennod olaf o'r hyn ddigwyddodd iddi dros y blynyddoedd diwethaf yn awgrymu bod digon i'w gael ar gyfer ail gyfrol maes o law. Datgelir yn y gyfrol y bydd Siân yn hanner cant oed noswyl Nadolig eleni. O gofio hynny, dyma anrheg werth chweil i'w rhoi yn hosanau eich cyfeillion ar y noson honno.

View full details