Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Cewri: 36 Hanas Gwanas

Cyfres y Cewri: 36 Hanas Gwanas

Regular price £8.95 GBP
Regular price Sale price £8.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Hunangofiant arbennig o ddifyr yr awdures a'r ddarlledwraig Bethan Gwanas. Yn yr hunangofiant yma mi gewch weld sawl ochr wahanol i gymeriad Bethan. Byddwch yn rhyfeddu at brysurdeb ei bywyd, ac yn chwerthin llawer (a chrio weithiau) yn ei chwmni.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The autobiography of Bethan Gwanas, the Welsh-language author and broadcaster.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9780860742845
Gwales Code
gwales.com.9780860742845
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Cewri: 36 Hanas Gwanas
Awdur / Author
Gwanas, Bethan
Current Price ex VAT
£8.95
Current Price inc VAT
£8.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2012-10-24
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gwynedd
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
208 pages
Size
123 × 182 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Atgofion a Hunangofiannau (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Atgofion a Hunangofiannau - Benyw (yn Gymraeg) | EN: Autobiographies and Reminiscences - Female (in Welsh)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Rwy’n siŵr fod nifer ohonom wedi prynu hunangofiannau ond heb orffen eu darllen – efallai nad oedd hanes bywyd y gwrthrych at ein dant, na'r dweud yn plesio, ond yn sicr nid yw hyn yn wir am hunangofiant Bethan Gwanas, y ferch hynod fyrlymus o ardal Dolgellau. Efallai fod rhai ohonoch yn teimlo eich bod yn adnabod Bethan yn lled dda yn barod gan iddi eisoes gyhoeddi cyfrolau megis Dyddiadur Gbara , Byd Bethan , Mwy o Fyd Bethan , ynghyd â theitlau eraill, ond gallaf eich sicrhau y dowch i adnabod Bethan yn llawer gwell ar ôl darllen y gyfrol hon. O’r cychwyn cyntaf cewch eich tynnu i mewn i'w hanes wrth iddi sôn am ei hantics ar hyd llwybr bywyd – ac mi roedd hi'n ferch ddrwg hyd at ei harddegau. Mae’n syndod i’w rhieni fentro ar fagu rhagor o blant! Er mai dim ond hanner cant yw Bethan mae hi wedi cyflawni mwy na’r rhan fwyaf ohonom. Roedd hi’n dipyn o domboi pan oedd hi'n ifanc ac yn llond llaw yn ei harddegau, yn dianc o’r ysgol yn gyson. Mae ei helyntion yn hynod ddoniol ac yn agoriad llygad. Ceir elfen o frolio yn fynych mewn hunangofiant, a gall hynny ddiflasu'r darllenydd, ond does yna ddim o hwnnw i'w gael yn y gyfrol hon. Mae Bethan yn hen ddigon parod i chwerthin wrth adrodd ei hantics a rhannu ei chamgymeriadau â ni. Does dim ots ganddi gyfaddef ei bod wedi bod yn y Glôb ym Mangor cyn perfformio Jiwdas , un o gynyrchiadau drama'r Urdd, a chyfaddef bod y ‘blue moons’ wedi cael cryn effaith ar ei pherfformiad. Dyw hi ddim yn poeni, chwaith, am adrodd yr hanes am Eirian Owen yn dweud wrthi yn ystod perfformiad yn Ysgol y Gader ei bod yn canu drwy'i thin. Mae yma onestrwydd di-ben-draw drwy’r gyfrol. Wrth gyfeirio at Emily Davies, un o'i darlithwyr o'i chyfnod yn y coleg, dywed nad oedd gan Emily fawr o feddwl o Bethan, a meddai yn yr un gwynt nad oedd ganddi hithau fawr o feddwl o Emily chwaith! Mae’r straeon doniol yn ddiddiwedd ac wedi’u cyflwyno â hiwmor hynod o sych sy’n taro deuddeg. Ond mae yna ddigwyddiadau hynod o drist ar daith bywyd. Gyda’r tristwch mwyaf y darllenwn am bwlimia Glesni ei chwaer, a hanes ei marwolaeth ifanc yn Bangkok. Yma eto mae Bethan yn gwbl onest wrth ddisgrifio'i theimladau wedi ymateb rhai o aelodau’r capel i drefniadau’r angladd. Dywed ar ddiwedd yr hanes nad oes gan neb hawl i fesur galar rhywun arall – y 'perchennog' yn unig sy’n gwybod maint a dwyster y golled. Mewn trafodaeth ddiweddar ar Radio Cymru, barn Jon Gower oedd nad ydym wedi cael adnabod y Bethan Gwanas go iawn yn y gyfrol hon, ond rwyf am fentro anghytuno ag ef. Nid cofnod manwl, ymffrostgar o gerrig milltir y daith a geir rhwng y cloriau ond cofnod difyr sy’n datgelu llawer iawn am Bethan. Faint o ferched sengl, er enghraifft, sy’n fodlon trafod eu bywyd carwriaethol a’r ffaith nad ydynt wedi cael plant? Mae Bethan, chwarae teg, yn gwneud hynny’n ddigon agored, gan rannu hefyd deimladau cwbl onest ynglŷn â’r nifer o swyddi y bu’n ei gwneud. Nid peth hawdd, yn wir, yw trafod cyd-Gymry a hwythau'n dal yn byw a bod yn ein plith! Ystrydeb, mae’n siŵr, yw dweud ar ddiwedd adolygiad fod hon yn gyfrol na ellir ei rhoi naill ochr, ond wir i chi, mae stori Bethan yn hynod ddifyr ac yn un a fydd yn apelio at ddarllenwyr o bob oed ymhob rhan o Gymru.

View full details