Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres y Coginfeirdd: Y Cwpan Cors-Snorclo
Cyfres y Coginfeirdd: Y Cwpan Cors-Snorclo
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Dyma'r ail nofel yn nhrioleg ddoniol Siân Lewis am y Cogs. Mae cystadleuaeth Cwpan Cors-snorclo'r Byd yn cael ei chynnal yng Nghymru yng Nghors Eth! Mae Fel a Twmcyn, fel pob aelod brwd arall o Glwb Ffans Eth, wedi gwario ffortiwn ar sticeri er mwyn cael cyfle i ennill gwobr ffantastig, sef cael pryd o fwyd yng nghwmni'r gors-snorclwraig fyd-enwog Eth Huws!
Disgrifiad Saesneg / English Description
The second title in Siân Lewis's humorous trilogy about the Cogs. The World Bog-snorkelling Cup competition is to be held in Wales at Cors Eth! Fel and Twmcyn and all other members of the Eth Fan Club spend a fortune on stickers in an attempt to win a fantastic prize - dinner with the world-famous bog-snorkeller, Eth Huws!
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781848517196
- Gwales Code
- gwales.com.9781848517196
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres y Coginfeirdd: Y Cwpan Cors-Snorclo
- Awdur / Author
- Lewis, Sian
- Current Price ex VAT
- £4.99
- Current Price inc VAT
- £4.99
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2014-10-22
- Cyhoeddwr / Publisher
- Gomer@Lolfa
- Darlunydd / Illustrator
- Flook, Helen
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 210 pages
- Size
- 126 × 198 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Storïau i Blant 9-11 Oed (yn Gymraeg) | EN: Stories for Children Aged 9-11 (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer y Cwricwlwm Cenedlaethol Cyfnod Allweddol 2 (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 2 (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 9 years; Oedran addas: o tua 9 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Mae Siân Lewis o Lanilar, Aberystwyth yn un o awduron llyfrau plant mwyaf toreithiog Cymru gan ysgrifennu yn y Gymraeg a’r Saesneg. Yn enedigol o Aberystwyth, astudiodd Ffrangeg yng Nghaerdydd ac ar ôl cyfnod fel llyfrgellydd, bu’n gweithio i Adran Gylchgronau’r Urdd ac yna ar ei liwt ei hun.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae Fel a Twmcyn, fel pob aelod brwd arall o Glwb Ffans Eth, wedi gwario ffortiwn ar sticeri er mwyn cael cyfle i ennill gwobr ffantastig, sef cael pryd o fwyd yng nghwmni’r gors-snorclwraig fyd-enwog, Eth Huws! Am wobr mega-anhygoel! Dim ond un broblem fach...Yng nghanol Cors Eth mae’r Cogs yn byw, sef y bwystfilod wnaeth geisio bwyta Fel a Twmcyn y llynedd! Maen nhw’n fwy peryglus na tharantwla! Yn fwy peryglus na haid o lewod! Felly pam ar wyneb y ddaear mae Fel a Twmcyn mor awyddus i fentro’n ôl i Gors Eth? Ai cynllwyn cyfrwys yw’r cyfan i ddenu Fel a Twmcyn i mewn i grafangau’r Cogs unwaith eto?
Share
