Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Dderwen: Mari Wyn

Cyfres y Dderwen: Mari Wyn

Regular price £5.95 GBP
Regular price Sale price £5.95 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Nofel gyffrous yng nghyfres y Dderwen sy'n darlunio Blaenau Ffestiniog ymhen 30 mlynedd trwy lygad merch ifanc. Mae ei bywyd yn llawn helbulon a byd 2029 yn llawn her.

Disgrifiad Saesneg / English Description

An exciting novel depicting Blaenau Ffestiniog in the future through the eyes of a young girl, whose life is full of difficulties and challenges.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781847712141
Gwales Code
gwales.com.9781847712141
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Dderwen: Mari Wyn
Awdur / Author
Ahston, Sara
Current Price ex VAT
£5.95
Current Price inc VAT
£5.95
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2010-12-01
Cyhoeddwr / Publisher
Y Lolfa
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
160 pages
Size
130 × 194 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
Cyfnod allweddol / Key stage
CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
Grŵp oedran / Age group
Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed

Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography

Mae Sara Ashton, yr awdur, yn byw yn Nhanygrisiau. Mae’n gweithio i Brosiect y Dref Werdd, sy’n hyrwyddo cynaliadwyedd ym Mlaenau Ffestiniog a’r ardal.

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Golwg ar Gymru'r dyfodol mewn nofel newydd Nofel am ferch ifanc o’r enw Mari Wyn yw’r ddiweddaraf yng Nghyfres y Dderwen. Wrth i stori drasig Mari Wyn gael ei hadrodd, daw i ddeall y byd a’i bethau mewn cyfnod anodd iddi hi a thrigolion Blaenau Ffestiniog. Y flwyddyn yw 2029 a chawn gipolwg ar ddyfodol posib mewn tref yng ngogledd Cymru. Yn sgil hynny, mae’r nofel yn archwilio’r modd rydyn ni’n byw ein bywydau ni heddiw ac yn codi cwestiynau ynglyn â’r dewisiadau a wnawn ni heddiw ac effeithiau’r penderfyniadau hynny ar ein dyfodol. Ond dyw hi ddim yn nofel athronyddol. Mae’r cymeriadau’n gryf, teuluoedd yn closio at ei gilydd a’r teimlad o gymuned yn bwysig yn y nofel. Meddai Meinir Wyn Edwards, un o olygyddion Cyfres y Dderwen: “Mae’r awdur wedi llwyddo i greu ymdeimlad o gymuned glòs a phawb yn helpu’i gilydd i ddod dros drasedïau personol. Mae’r gymuned honno wedi cael ei gorfodi i newid yn sgil cau’r chwareli llechi, ac mae’r nofel yn dangos sut mae pobol yn ymdopi ar ôl cyfres o ddaeargrynfeydd a chynhesu byd-eang, a’r effaith a gaiff cwmnïau mawr rhyngwladol ar y dref, a’r rheini wedi difetha’r ffordd Gymreig o fyw, o ran gwaith, iaith, diwylliant a chrefydd.” Meddai Sara ashton: “Mae'r ffordd yr ydyn ni'n byw yn y Gorllewin a'r effaith mae hynny'n cael ar bobl ledled y byd, ac yn wir ar ddyfodol ni'n hunain, ar fy meddwl yn gyson. Dim jest o ran newid yn yr hinsawdd, ac adnoddau yn prinhau, ond o ran ein perthynas â ni'n hunain ac â'n cyd-ddyn, a'r ffordd caiff hynny ei amlygu yn ein cymunedau, ein cymdeithas a'n diwylliant. Mae taith Mari Wyn yn y nofel yn daith a fyddai'n llesol i bob un ohonom ni dwi'n meddwl. Wnaeth y nofel ei hun esblygu o’r prif cymeriad. Hi oedd y symbyliad. Teimlais ei bod hi angen mynd ar rhyw fath o daith a fyddai'n arwain at chwyldro. Wnaeth gweddill y stori lifo o hynny. Wnes i ddim cychwyn gyda'r bwriad o sgwennu i bobl yn eu harddegau, yn wir mae'r nofel yn addas i bawb dros 14 oed. Ond mae'r ffaith fod y nofel yn ymdrin â'r dyfodol, ac yn ein hannog i archwilio'r effaith caiff y dewisiadau rydan ni'n eu gwneud heddiw ar y dyfodol hynny, yn ei gwneud hi’n nofel arbennig o berthnasol i bobl yn eu harddegau. Wedi'r cwbl, nhw yw'r dyfodol.”

View full details