Cyngor Llyfrau Cymru
Cyfres y Dderwen: Siarad
Cyfres y Dderwen: Siarad
Couldn't load pickup availability
Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description
Mae'r nofel hon yn adrodd hanes teulu sydd wedi mynd i fyw eu bywydau trwy'r sgrin - sgrin deledu a chyfrifiadur - yn hytrach nag yn y byd go iawn, gan arwain at ddiweddglo dirdynnol. Nofel ar gyfer yr arddegau hwyr ac oedolion.
Disgrifiad Saesneg / English Description
New York 9/11. A plane is about to strike one of the towers. Cardiff 9/12. A family is shattered. This is a contemporary novel about an horrific event and its profound effects on the life of one family. A psychological novel aimed at adults and teenagers by an experienced author.
Dosbarthu
Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.
Dispatch
In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.
Manylion y cynnyrch / Product details
- ISBN 13
- 9781847713469
- Gwales Code
- gwales.com.9781847713469
- Gwerthwr / Vendor
- Cyngor Llyfrau Cymru
- Long Title
- Cyfres y Dderwen: Siarad
- Awdur / Author
- Roberts, Lleucu
- Current Price ex VAT
- £5.95
- Current Price inc VAT
- £5.95
- Availability Status (EN)
- Available
- Availability Status (CY)
- Ar gael
- Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
- 2011-11-30
- Cyhoeddwr / Publisher
- Y Lolfa
- Media Type (EN)
- Paperback / softback
- Media Type (CY)
- Clawr meddal
- Pages
- 160 pages
- Size
- 130 × 195 mm
- Language Code
- Welsh
- Categori / Category
- CY: Plant a Phobl Ifainc (Nofelau a Storïau) (yn Gymraeg) | EN: Children's Books (Novels and Short Stories) (in Welsh)
- Is-gategori / Subcategory
- CY: Nofelau a Storïau i'r Arddegau (yn Gymraeg) | EN: Novels and Stories For Young Adults (in Welsh)
- Cyfnod allweddol / Key stage
- CY: Ar gyfer Cyfnod Allweddol 4 y Cwricwlwm Cenedlaethol a TGAU (Lloegr a Chymru) | EN: For National Curriculum Key Stage 4 and GCSE (England and Wales)
- Grŵp oedran / Age group
- Interest age: from c 13 years; Oedran addas: o tua 13 blwydd oed
Bywgraffiad yr Awdur / Author Biography
Roedd nofelau eraill Lleucu Roberts i’r Onnen a’r Dderwen yn werthwyr gorau. Enillodd Annwyl Smotyn Bach Wobr Tir na nOg yn 2009 a Stwff yn 2011.
Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review
Mae’r nofel hon yn mynd i berfedd seicoleg un teulu sydd yn dioddef i’r byw o beidio ‘siarad’ â'i gilydd. Pan fo trychineb yn tarfu ar y byd ac ar fywydau personol, nid ‘siarad’ o anghenraid yw ein hymateb cyntaf, ond mae’n bosib i hyn fynd yn rhy bell, a dyma a gawn yma wrth i ni ddilyn cwymp Mair i grombil iselder. Yn fam addfwyn ar y dechrau, mae Mair yn teimlo effeithiau trasiedi 9/11 i'r byw, a phan fo damwain yn difetha ei huned deuluol hithau, dim ond mewn un ffordd y gall Mair ddygymod â'r peth. Yn y nofel hon ystyrir y ffin denau rhwng yr hyn sy'n galluogi unigolyn i ymdopi, a’r hyn sy’n ei wthio i wallgofrwydd. Ceir yma dystiolaeth o sut y gall tawelwch effeithio ar deulu cyfan. Mae hon yn nofel glyfar a gafaelgar a bu’r awdur yn fentrus wrth ymlwybro i fyd seicoleg. Mam ac iselder arni sydd yma, a llwyddir i ddal diddordeb y darllenydd drwy'r stori. Ceir yma ymbil taer am gyfathrebu rhwng y cymeriadau. Mae yma hefyd ddigon o ddigwyddiadau a throbwyntiau sy'n gwthio’r cymeriadau i gyflawni gweithredoedd sydd yn eu newid am byth. Pan fo’r unig berson sydd â’r potensial i gynnig clust yn troi cefn, does dim ond un ffordd ymlaen mewn bywyd mor gaeedig. Hyd at ddiwedd y nofel, mae’r darllenydd yn cael ei sugno i ganol ffawd y cymeriadau. Yn sicr, fe fydd pob darllenydd am i Mair gael ei gollwng o’i chaethiwed. Ie wir, petai hi ond yn medru ‘siarad’ ...
Share
