Skip to product information
1 of 1

Cyngor Llyfrau Cymru

Cyfres y Goreuon: 1. Cyfweliadau Mabon

Cyfres y Goreuon: 1. Cyfweliadau Mabon

Regular price £12.50 GBP
Regular price Sale price £12.50 GBP
Sale Sold out
Taxes included. Shipping calculated at checkout.
Quantity

Disgrifiad Cymraeg / Welsh Description

Cyhoeddwyd y cylchgrawn Mabon yn yr 1970au gan Gymdeithas Gelfyddydau Gogledd Cymru. Ymysg yr erthyglau mwyaf poblogaidd oedd cyfweliadau â llenorion Cymraeg y cyfnod, a cheir yma ddetholiad ohonynt. Y mae yma hefyd gyfweliad â dau gymeriad byd-enwog, sef y cyfarwyddwr ffilmiau Roman Polanski, a'r bardd Rwsiaidd Iefgeni Ieftwshenco.

Disgrifiad Saesneg / English Description

The magazine Mabon was published during the 1970s by North Wales Arts, and amongst the articles there appeared a series of interviews with Welsh writers of the period, a selection of which are reproduced here. In addition, two outstanding interviews are included with the world-renowned film director, Roman Polanski, and the Russian poet, Yevgeny Yevtushenko.

Dosbarthu

Byddwn yn dosbarthu eitemau sydd mewn stoc o fewn 3 diwrnod gwaith, fel arfer drwy Royal Mail Tracked 48. Ar gyfer archebion o flaen llaw, byddwn yn dosbarthu’r eitem o fewn 3 diwrnod gwaith ar ôl ei derbyn gan ein cyflenwr.

Dispatch

In-stock items will be dispatched within 3 business days, usually by Royal Mail Tracked 48. For pre-orders, we’ll dispatch within 3 business days of receiving the item from our supplier.

Manylion y cynnyrch / Product details

ISBN 13
9781904554103
Gwales Code
gwales.com.9781904554103
Gwerthwr / Vendor
Cyngor Llyfrau Cymru
Long Title
Cyfres y Goreuon: 1. Cyfweliadau Mabon
Awdur / Author
Thomas, Gwyn
Current Price ex VAT
£12.50
Current Price inc VAT
£12.50
Availability Status (EN)
Available
Availability Status (CY)
Ar gael
Dyddiad cyhoeddi / Publication Date
2011-03-17
Cyhoeddwr / Publisher
Gwasg Gee
Media Type (EN)
Paperback / softback
Media Type (CY)
Clawr meddal
Pages
112 pages
Size
148 × 210 mm; depth 12 mm
Language Code
Welsh
Categori / Category
CY: Ysgrifau a Sgyrsiau (yn Gymraeg) | EN: Essays and Talks (in Welsh)
Is-gategori / Subcategory
CY: Ysgrifau (yn Gymraeg) | EN: Essays (in Welsh)

Cynnwys / Table of Contents

CYNNWYS Euros Bowen (Mabon Un, Gwanwyn 1969) Kate Roberts (Mabon Dau, Gaeaf 1969-70) John Gwilym Jones (Mabon Tri, Haf 1970) Alun Llywelyn-Williams (Mabon Pedwar, Gwanwyn 1971) T. Glynne Davies (Mabon Pump, Gwanwyn 1972) Islwyn Ffowc Elis (Mabon Chwech, Gwanwyn - Haf 1973) Thomas Parry (Mabon Saith, Gwanwyn 1974) Saunders Lewis (Mabon Wyth, Gaeaf 1974-75) Iefgeni Ieftwshenco (Mabon Naw, Gaeaf 1975-76) Roman Polanski (Mabon Pump, Gwanwyn 1971)

Adolygiad y Cyhoeddwr / Publisher Review

Deg cyfweliad gydag ‘Amryw Awduron ac Un Cyfarwyddwr Ffilmiau’, ys dywed yr isdeitl, a geir yn y gyfrol hon. Roman Polanski yw’r cyfarwyddwr ffilmiau. Mae’r awduron yn cynnwys y bardd o Rwsia, Iefgeni Ieftwshenco ac wyth awdur Cymraeg, sef Euros Bowen, Kate Roberts, John Gwilym Jones, Alun Llywelyn-Williams, T. Glynne Davies, Islwyn Ffowc Elis, Thomas Parry a Saunders Lewis. Cyhoeddwyd y cyfweliadau rhwng 1969 a 1976 yn Mabon , cylchgrawn llenyddol ar gyfer pobl ifanc a olygwyd gan Gwyn Thomas. Tipyn o syndod ar ryw olwg yw eu casglu ynghyd yn gyfrol yn 2011, yn hytrach na chwilio am gyfle i gyhoeddi’r cylchgronau yn eu crynswth yn ddigidol. Ond buan y try’r syndod hwnnw’n bleser wrth fodio’r gyfrol hwylus, lanwaith hon, a mwynhau cwmni dadlennol a difyr artistiaid amrywiol eu cyfryngau a’u personoliaethau ond unplyg bob un yn eu hymrwymiad i’w gwaith. Pwy fagodd ymwybyddiaeth o bwysigrwydd rhythm mewn barddoniaeth trwy ddysgu dawnsio yn y coleg? Pwy sy’n cyfaddef na chafodd ‘erioed lawer o bleser wrth geisio barddoni’? Pa ddramodydd sy’n dweud ei fod yn gas ganddo’r gair ‘cymeriad’? Pa awdur sy’n mynnu na chafodd yrfa erioed mewn gwirionedd? Pwy ddywedodd fod ‘rhesi tai swbwrbia fodern yn gwneud imi feddwl yn gyson am ddiwedd y byd’? Pwy sy’n mynnu bod yn rhaid i’r ysgolhaig wrth ‘arddull loyw, yr un math o arddull ag y mae gofyn amdani mewn rhyddiaith lenyddol’? Byddwn yn eich annog i ddarllen y gyfrol hon er mwyn canfod yr atebion i’r cwestiynau hyn, ac er mwyn profi enghreifftiau o draethu deallus am gelfyddyd nad yw byth yn ymhonnus. Er mai ar ffurf cyfweliadau y mae’r traethu, y mae’n cyflawni’r hyn y mae John Gwilym Jones yn un o’i atebion ef yn ei alw yn ‘un o anhepgorion beirniadaeth’, sef ‘bod yn ddiddorol ac yn bleserus i’w darllen; rhoi ysgogiad meddwl i ddarllenwyr p’run a ydyn nhw’n cydweld ai peidio’.

View full details